Trawsgludo Preswyl Rhydd-ddaliadol- Prynu

GRADDFA FFIOEDD:

PRYNIANT PRESWYL RHYDD-DDALIADOL

Mae ei ffioedd yn dechrau ar £775.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer pryniant preswyl rhydd-ddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £800.00 ynghyd â TAW.

Codir y ffioedd canlynol yn ogystal â’r uchod lle bo hynny’n briodol:-

  • Benthyciad Ecwiti Cymorth i Brynu Cymru £250.00 ynghyd â TAW
  • Adeilad Newydd £250.00 ynghyd â TAW
  • Teitl anghofrestredig £200.00 ynghyd â TAW
  • ISA Cymorth i Brynu/Isa ISA Gydol Oes £50.00 ynghyd â TAW

Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, er enghraifft Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi am ffioedd chwiliadau a CThEM neu Awdurdod Refeniw Cymru ar gyfer y dreth stamp. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan.

 ALLDALIADAU sydd yn daladwy wrth brynu:

  • Chwiliadau Trawsgludo (Chwiliadau Cyfunol, sydd yn daladwy fel “pris pecyn”)
  • Chwiliad Swyddogol yr Awdurdod Lleol*
  • Chwiliad Draeniad a Dŵr
  • Chwiliad Amgylcheddol
  • Chwiliad Cloddio am Lo (yn ddibynnol ar leoliad yr eiddo)

Mae cost Chwiliadau Swyddogol yr Awdurdod Lleol yn amrywio rhwng pob ardal Awdurdod Lleol. Fel canllaw, ar hyn o bryd cost pecynnau chiliadau ar gyfer yr ardaloedd sydd agosaf at ein swyddfeydd (CH7 ac LL15) yw £317.00 a £321.00 yn ôl eu trefn. Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost.

 Ffioedd chwiliadau eraill sydd yn daladwy:

Chwiliadau Pridiant Tir/Chwiliad Methdaliad £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW)
Chwiliad Swyddogol £3.20 per name (inclusive of any VAT)
Ffioedd Cofrestrfa Tir (Cofrestru eiddo) Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost ond fe’ch cyfeiriwn at y wybodaeth ar y wefan ganlynol:

https://www.gov.uk/guidance/hm-land-registry-registration-services-fees

Ffi Trosglwyddiad Banc (os yn berthnasol) e.e. er mwyn trosglwyddo arian y pryniant neu i dalu balans sydd yn ddyledus yn uniongyrchol i’ch banc ar ôl gwerthu eiddo. £40. Ac £8. TAW
Mae’n bosib hefyd y bydd raid ichi dalu ffi dogfennaeth morgais (y mae rhai benthycwyr yn ei chodi. Cewch wybod os yw’r ffi yma’n daladwy) Ar hyn o bryd mae sawl benthyciwr yn codi £15 a TAW O £3 am ddarparu dogfennau morgais. Unwaith eto, byddwn yn cadarnhau’r ffi yn ein dyfynbris penodol.
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo hynny’n briodol, cynhelir chwiliad AML. £5 .60 yr enw. Dim TAW
Ffi cyflwyno Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) (CYFLWYNO Ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp) £6.00 gan gynnwys TAW.
Ffi cyflwyno AP1 (i newid Cofrestr Teitlau) £6.00 gan gynnwys TAW.

Mae’n bosib y bydd chwiliadau eraill yn angenrheidiol unwaith i’r holl wybodaeth am yr eiddo     ddod i’r amlwg. Dim ond pa fo’r wybodaeth hon ar gael y gallwn ni roi pris llawn ar gyfer y chwiliadau. Fe wnawn ni yna ddarparu dyfynbris ysgrifenedig llawn ichi yn manylu’r holl gostau, yr alldaliadau a’r TAW. Gallai’r chwiliadau ychwanegol gynnwys:

  • Perygl o Lifogydd
  • Cynllunio
  • Ynni a Seilwaith
  • Indemniadau
  • Chwiliad Atebolrwydd Atgyweirio Cangell. (Mae’r chwiliad yma yn pennu a yw’r eiddo mewn plwyf ble mae eglwys ganoloesol ac felly ag atebolrwydd posib i gyfrannu tuag at gostau atgyweirio ar gyfer Eglwys). Nid yw’r chwiliad yma yn ddrud iawn, ond gallai’r canlyniad arwain at gost gwneud cais am bolisi yswiriant indemniad.

Y DRETH STAMP neu’r DRETH TRAFODIADAU TIR (Cymru)

Mae’r swm sy’n daladwy yn ddibynnol ar bris prynu eich eiddo. Mae’r ddolen isod yn mynd â chi i wefan CThEM ar gyfer eiddo yn Lloegr neu Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer eiddo yng Nghymru. Byddwn yn cadarnhau’r dreth sy’n daladwy yn ein dyfynbris ysgrifenedig pan fo gennym yr holl wybodaeth. Mae’r swm y byddwch yn ei dalu yn ddibynnol ar sawl ffactor, gan gynnwys pa un ai:

  • a ydw’r tir yn dir preswyl neu amhreswyl
  • a yw’r eiddo rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol
  • yn achos eiddo preswyl, a ydych yn berchen ar gartref arall mewn man arall yn y byd
  • a yw trafodiadau yn gysylltiedig.

 Yn yr un modd, mae yna ddigwyddiadau a all wneud eiddo yn esempt, neu olygu gostyngiad yn y swm sy’n daladwy, e.e.

  • rhoddion
  • eiddo sy’n cael ei adael mewn ewyllys
  • trosglwyddo eiddo mewn ysgariad neu pan gaiff partneriaeth sifil ei diddymu
  • os yw mwy na chwe eiddo yn cael eu caffael, yna fe’i cyfrifir yn ôl cyfraddau SDLT amhreswyl
  • gall rhyddhad eiddo lluosog ddod i rym pan fo mwy na dau eiddo yn cael eu prynu

Gwefan CThEM:    https://www.tax.service.gov.uk/calculate-stamp-duty-land-tax/#/intro

Gwefan Awdurdod Cyllid Cymru:   https://beta.gov.wales/land-transaction-tax-calculator

CWMPAS Y GWAITH

Mae ein ffioedd yn cwmpasu’r holl waith sy’n angenrheidiol gan gynnwys cwblhau, delio gyda chofrestru gyda’r Gofrestrfa Dir a delio gyda thaliadau ar gyfer naill ai’r Dreth Stamp neu’r Dreth Trafodiadau Tir (yn ddibynnol ar a yw’r eiddo yng Nghymru neu yn Lloegr). Noder bod y ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol:

  • bod hwn yn drafodiad safonol ac na fydd unrhyw fater(ion) nas rhagwelwyd yn codi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • ddiffyg yn y teitl sydd angen ei gywiro cyn cwblhau, neu baratoi dogfennau ychwanegol, yn ychwanegol at y prif drafodiad
  • bod y gwaith yn cynnwys delio â morgais gyntaf ar yr eiddo. Bydd ail bridiannau neu arwystlon ecwitïol eraill yn arwain at gostau pellach ac fe’ch hysbysir pan fo’r holl sefyllfa yn hysbys ynglŷn â’r cyllid.

Pan fo unrhyw gymhlethdod nas ragwelwyd yn digwydd neu pan fo’r modd y gofynnir inni weithredu yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu a darparu gwybodaeth ddiwygiedig am y costau, yn ychwanegol i’r hyn a nodwyd eisoes yn ein llythyr Telerau Ymrwymiad.

AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH

Mae sawl ffactor yn pennu’r amser mae’n cymryd i’ch pryniant gwblhau. Yr amser cyfartalog ar gyfer y broses yw rhwng 6 ac 8 wythnos. Dyma rai o’r digwyddiadau a all effeithio’r amserlen:

  • nifer y partïon yn y gadwyn
  • os ydych chi’n prynu am y tro cyntaf
  • prynu eiddo sy’n cael ei adeiladu o’r newydd

Fe wnawn ni, wrth gwrs, eich diweddaru fel bo angen.

GWAHANOL GAMAU’R BROSES

Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol y gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall yr union gamau amrywio yn ôl yr amgylchiadau.

  • Derbyn eich cyfarwyddyd a rhoi cyngor cychwynnol
  • Gwirio bod y cyllid yn ei le i ariannu’r pryniant a chysylltu â chyfreithwyr y benthyciwr os bydd angen
  • Cynnal chwiliadau
  • Cael gafael ar ddogfennaeth cynllunio pellach os bydd angen
  • Cyfeirio unrhyw ymholiadau angenrheidiol at gyfreithiwr y gwerthwr
  • Rhoi cyngor ichi ar yr holl ddogfennaeth a’r wybodaeth a dderbynnir
  • Mynd trwy amodau’r cynnig morgais gyda chi
  • Cyfarfod gyda chi/Danfon y contract atoch i’w arwyddo
  • Cyfnewid contractau a’ch hysbysu pan fo hyn wedi digwydd; cytuno ar ddyddiad cwblhau (y dyddiad pan fyddwch chi’n berchen ar yr eiddo)
  • Paratoi Trosglwyddiad drafft
  • Rhoi cyngor ichi ar berchnogaeth ar y cyd
  • Sicrhau chwiliadau cyn cwblhau
  • Trefnu’r bod yr holl arian yn cael ei dderbyn gennych chi a’ch benthyciwr
  • Cwblhau’r pryniant
  • Delio gyda thalu’r Dreth Stamp/Treth Tir
  • Delio gyda’r cais i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir

Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:

Swyddfa Yr Wyddgrug

Dion ap Geraint Williams
Nerys Wyn McKee
Nesta Myfanwy Davies
Chloe Roberts
Beti-Wyn Evans

Swyddfa Rhuthun

Delyth Geraint Williams

Ffion Medi Jones

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Trawsgludo Preswyl Rhydd-ddaliadol - Gwerthu

GRADDFA FFIOEDD:

TRAWSGLUDO PRESWYL RHYDD-DDALIADOL – GWERTHU

 Mae ei ffioedd yn dechrau ar £725.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer gwerthiant preswyl rhydd-ddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £750.00 ynghyd â TAW.

Yn ychwanegol at ein ffioedd sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw’r costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, er enghraifft Y Gofrestrfa Dir am gopi o’r dogfennau teitl. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan.

FFIOEDD YCHWANEGOL

ALLDALIADAU

Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi – Ffioedd copi Swyddfa £3.90 (gan gynnwys unrhyw TAW)
Ffi trosglwyddo arian yn electronig (os yn berthnasol) £40 ac £8. TAW
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo hynny’n briodol, cynhelir chwiliad AML £5.60 yr enw dim TAW

 CWMPAS Y GWAITH

Mae ein ffioedd yn cynnwys yr holl waith sydd ei angen gan gynnwys gwaith i gwblhau ac wedi’r cwblhau, megis talu unrhyw forgais/forgeisi a/neu pridiannau eraill ar yr eiddo, danfon dogfennau teitl ymlaen at gyfreithwyr y perchennog newydd, talu ffioedd unrhyw asiantaeth gwerth tai. Noder, mae’r ffioedd a nodi yn cymryd yn ganiataol mai trafodiad safonol yw hwn, ac na fydd unrhyw anawsterau nas rhagwelwyd yn codi, megis diffyg mewn teitl a allai olygu gwneud gwaith i’w gywiro cyn cwblhau neu baratoi dogfennau ychwanegol, yn ychwanegol i’r prif drafodiad.

Pan fo anhawster nas rhagwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol, byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu gwybodaeth costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.

AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH

Mae sawl ffactor yn pennu’r amser y bydd yn ei chymryd i’ch gwerthiant gwblhau: mae’r broses gyfartalog yn cymryd rhwng 6 ac 8 wythnos. Ymhlith rhesymau eraill, gall y ffactorau canlynol effeithio ar yr amserlen:

  • Nifer y partïon yn y gadwyn
  • Pryniant cysylltiedig eiddo arall

Byddwn wrth reswm yn eich diweddaru drwy gydol y broses.

CAMAU’R BROSES

Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall yr union gamau amrywio yn ôl yr amgylchiadau.

  • Derbyn eich cyfarwyddyd a rhoi cyngor cychwynnol
  • Paratoi’r contract draft a’r dogfennau angenrheidiol i’w cymeradwyo gan eich prynwr
  • Sicrhau dogfennau cynllunio pellach os oes angen
  • Ateb unrhyw gwestiynau y mae cyfreithiwr y prynwr/prynwyr yn eu gofyn
  • Rhoi cyngor ichi ar wybodaeth a dderbynnir
  • Danfon y contract terfynol atoch i’w arwyddo
  • Cyd-drafod dyddiad cwblhau (y dyddiad pan nad ydych bellach yn berchen ar yr eiddo)
  • Cyfnewid contractau a’ch hysbysu pan fo hyn wedi digwydd
  • Cwblhau’r gwerthiant
  • Trefnu ad-dalu unrhyw forgais/forgeisi a phridiant/pridiannau eraill ar yr eiddo ar y diwrnod cwblhau
  • Danfon yr holl ddogfennau teitl ymlaen at gyfreithiwr y perchennog/perchnogion newydd.
  • Trosglwyddo enillion net y gwerthiant ichi.

Manylion llawn am gymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:

Swyddfa Yr Wyddgrug

Dion ap Geraint Williams
Nerys Wyn McKee
Nesta Myfanwy Davies
Chloe Roberts
Beti-Wyn Evans

Swyddfa Rhuthun

Delyth Geraint Williams

Ffion Medi Jones

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

 

Or use our contact form

Pryniant Preswyl Lesddaliadol

GRADDFA FFIOEDD:

PRYNIANT PRESWYL LESDDALIADOL

Mae ei ffioedd yn dechrau ar £1,000.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer pryniant preswyl lesddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £1050.00 ynghyd â TAW.

Codir y ffioedd canlynol yn ogystal â’r uchod lle bo hynny’n briodol:-

  • Benthyciad Ecwiti Cymorth i Brynu Cymru £250.00 ynghyd â TAW
  • Adeilad Newydd £250.00 ynghyd â TAW
  • Teitl anghofrestredig £200.00 ynghyd â TAW
  • ISA Cymorth i Brynu/Isa ISA Gydol Oes £50.00 ynghyd â TAW
  • Ymglymiad gyda Cwmni Rheolaeth Rhydd-daliadol  £150 â TAW

 Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, er enghraifft ffioedd chwiliadau. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan. Mae alldaliadau wedi eu rhestru’n unigol isod. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae’n bosib y bydd alldaliadau eraill i’w talu yn ddibynnol ar delerau’r brydles. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y ffioedd penodol unwaith inni dderbyn ac adolygu’r brydles gan gyfreithiwr y gwerthwr/gwerthwyr.

ALLDALIADAU SY’N DALADWY

  • *Chwiliadau Trawsgludo (Chwiliadau Cyfunol, sy’n daladwy fel “pris pecyn”)
    • Chwiliad Swyddogol yr Awdurdod Lleol*
    • Chwiliad Draenio a Dŵr
    • Chwiliad Amgylcheddol
    • Chwiliad Cloddio am Lo (yn ddibynnol ar leoliad yr eiddo)

*Mae cost Chwiliadau Swyddogol yr Awdurdod Lleol yn amrywio rhwng pob ardal Awdurdod. Fel canllaw, ar hyn o bryd mae’r costau ar gyfer pecynnau chwiliadau ar gyfer yr ardaloedd sydd agosaf at ein swyddfeydd (CH7 ac LlL15) oddeutu £317.00 a £321.00 yn ôl eu trefn. Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost.

Ffioedd chwiliadau safonol eraill sy’n daladwy:

Chwiliad Pridiannau Tir/Chwiliad Methdaliad £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW)
Chwiliad Swyddogol £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW)
Ffioedd Cofrestrfa Tir (Cofrestru eiddo) Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost ond fe’ch cyfeiriwn at y wybodaeth ar y wefan ganlynol:

https://www.gov.uk/guidance/hm-land-registry-registration-services-fees

Ffi Trosglwyddiad Banc (os yn berthnasol) e.e. i drosglwyddo’r arian pryniant neu dalu’r balans yn dilyn gwerthiant yn uniongyrchol i’ch banc. £40. Ac £8 TAW
Mae’n bosib hefyd y bydd raid ichi dalu ffi dogfennaeth morgais (y mae rhai benthycwyr yn ei chodi. Fe’ch hysbysir os yw’r ffi yma’n daladwy) Ar hyn o bryd mae sawl benthyciwr yn codi £15 a TAW o £3 am ddarparu dogfennaeth morgais. Unwaith eto, byddwn yn cadarnhau’r ffi yn ein dyfynbris penodol.
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo’n briodol, cynhelir chwiliad AML. £5.60 yr enw, dim TAW
Ffi cyflwyno Ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW)
Ffi cyflwyno AP1 (i newid Cofrestr Teitl) £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW)

Mae’n bosib y bydd chwiliadau eraill yn angenrheidiol pan fo’r wybodaeth lawn ar gael am yr eiddo. Dim ond pan fo’r wybodaeth hon ar gael y gallwn ni ddarparu’r pris llawn ar gyfer y chwiliadau. Byddwn yna’n darparu dyfynbris ysgrifenedig llawn ar eich cyfer yn manylu ar yr holl gostau, yr alldaliadau a’r TAW.

Mae yna gostau ychwanegol y mae Landlord a/neu Gwmni Rheoli yn eu codi, megis:

  • Ffi Hysbysiad Aseinio
  • Ffi Hysbysiad Pridiant (os yw’r eiddo i’w roi ar forgais)
  • Ffioedd Gweithred Cyfamod
  • Ffioedd Tystysgrif Cydymffurfiaeth

Mae’r ffioedd hyn yn amrywio o eiddo i eiddo. Fe allwn ni roi ffigwr pendant ichi unwaith inni glywed gan y Landlord/Cwmni Rheoli.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol y bydd rhent tir a thâl gwasanaeth yn debygol o fod yn berthnasol drwy gydol eich perchnogaeth o’r eiddo. Byddwn yn cadarnhau’r rhent tir a’r tâl gwasanaeth a ragwelir cyn gynted ag y daw’r wybodaeth yma i law.

Y DRETH STAMP neu’r DRETH TRAFODIADAU TIR (CYMRU)

Mae’r swm sy’n daladwy yn ddibynnol ar bris prynu’r eiddo. Mae’r dolenni isod yn mynd â chi naill ai i wefan CThEM ar gyfer eiddo yn Lloegr neu Awdurdod Refeniw Cymru os yw’r eiddo yng Nghymru. Byddwn yn cadarnhau’r dreth sy’n daladwy yn ein dyfynbris ysgrifenedig pan fo’r holl wybodaeth yn hysbys.

Gwefan CThEM: https://www.tax.service.gov.uk/calculate-stamp-duty-land-tax/#/intro

Gwefan Awdurdod Refeniw Cymru: https://beta.gov.wales/land-transaction-tax-calculator

 CWMPAS Y GWAITH

Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall union gamau prynu eiddo preswyl lesddaliadol amrywio yn ôl yr amgylchiadau.

  • Derbyn eich cyfarwyddyd a rhoi cyngor cychwynnol
  • Gwirio bod y cyllid yn ei le i ariannu’r pryniant
  • Derbyn a rhoi cyngor ar ddogfennau’r contract
  • Cynnal chwiliadau
  • Cael gafael ar ddogfennaeth cynllunio, os bydd angen
  • Cyfeirio unrhyw ymholiadau angenrheidiol at gyfreithiwr y gwerthwr/gwerthwyr
  • Rhoi cyngor ichi ar yr holl ddogfennaeth a’r wybodaeth a dderbynnir
  • Derbyn cymeradwyaeth y cynnig morgais
  • Paratoi Trosglwyddiad drafft
  • Rhoi cyngor ichi ar holl ddogfennaeth y contract
  • Cyfarfod gyda chi i arwyddo’r contract a’r trosglwyddiad
  • Sicrhau chwiliadau cyn cwblhau
  • Cytuno ar y dyddiad cwblhau (dyddiad pan fyddwch chi’n berchen ar yr eiddo)
  • Cyfnewid contractau a’ch hysbysu pan fo hyn wedi digwydd
  • Gwneud cais i ryddhau’r blaenswm morgais (os oes peth)
  • Cwblhau’r pryniant
  • Talu’r Dreth Stamp/Treth Trafodiadau Tir
  • Cyflwyno cais i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir

Noder, mae’r ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol mai trafodiad safonol yw hwn ac na fydd anawsterau nas ragwelwyd yn codi, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Diffyg mewn teitl sydd angen ei gywiro cyn cwblhau neu baratoi dogfennau ychwanegol, yn ychwanegol i’r prif drafodiad.
  • delio gydag unrhyw ail bridiannau neu bridiannau ecwitïol eraill a fydd yn golygu costau pellach, a’ch hysbysu unwaith i’r holl sefyllfa ariannu ddod i’r amlwg

Pan fo anhawster nas ragwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.

AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH

Mae sawl ffactor yn pennu’r amser mae’n cymryd i’ch pryniant gwblhau. Yr amser cyfartalog ar gyfer y broses yw rhwng 6 ac 8 wythnos. Dyma rai o’r digwyddiadau a all effeithio’r amserlen:

  • nifer y partïon yn y gadwyn
  • os ydych chi’n prynu am y tro cyntaf
  • prynu eiddo sy’n cael ei adeiladu o’r newydd
  • gwerthiant cysylltiedig.

Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:

Swyddfa Yr Wyddgrug

Dion ap Geraint Williams
Nerys Wyn McKee
Nesta Myfanwy Davies
Chloe Roberts
Beti-Wyn Evans

Swyddfa Rhuthun

Delyth Geraint Williams
Ffion Medi Jones

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

 

Or use our contact form

Gwerthiant Preswyl Lesddaliadol

GRADDFA FFIOEDD:

 GWERTHIANT PRESWYL LESDDALIADOL

Mae ei ffioedd yn dechrau ar £975.00 ynghyd â TAW. Yn gyffredinol, ein ffioedd arferol ar gyfer gwerthiant preswyl lesddaliadol heb unrhyw gymhlethdodau annisgwyl yw £950.00 ynghyd â TAW.

Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol, bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sy’n daladwy i drydydd partïon, er enghraifft Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi am gopi o’r dogfennau teitl neu ffioedd sy’n daladwy i Gwmni Rheoli. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan. Mae’r alldaliadau a ragwelir wedi eu rhestru’n unigol isod. Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae’n bosib y bydd alldaliadau eraill i’w talu yn ddibynnol ar delerau’r les. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y ffioedd penodol unwaith inni dderbyn ac adolygu’r les.

ALLDALIADAU

Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi – Ffioedd copi swyddfa £3.90 y ddogfen (gan gynnwys unrhyw TAW)
Ffi trosglwyddo arian yn electronig (os yn berthnasol) £40 ac £8. TAW
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo’n briodol, cynhelir chwiliad AML £5.60 yr enw dim TAW
Ffioedd sy’n daladwy i Landlord/Cwmni Rheoli i gydymffurfio â’r Les Fe’ch hysbysir unwaith inni dderbyn ac adolygu’r les.

CWMPAS Y GWAITH

Mae ein ffioedd yn cynnwys yr holl waith sydd ei angen gan gynnwys gwaith i gwblhau ac wedi cwblhau megis talu unrhyw forgais/forgeisi a/neu bridiannau eraill ar yr eiddo, danfon dogfennau teitl ymlaen at gyfreithwyr y perchennog newydd, talu ffioedd unrhyw asiantaeth gwerthu tai. Noder, mae’r ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol mai trafodiad safonol yw hwn ac na fydd anawsterau nas ragwelwyd yn codi, megis diffyg mewn teitl sydd angen ei gywiro cyn cwblhau neu baratoi dogfennau, yn ychwanegol i’r prif drafodiad.

Pan fo anawsterau nas ragwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.

AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH

Mae sawl ffactor yn pennu’r amser mae’n cymryd i’ch gwerthiant gwblhau. Yr amser cyfartalog ar gyfer y broses yw rhwng 6 ac 8 wythnos. Gall y ffactorau canlynol gael effaith ar yr amserlen:

  • nifer y partïon yn y gadwyn
  • pryniant cysylltiedig o eiddo arall

Fe wnawn ni, wrth gwrs, eich diweddaru fel bo angen.

CAMAU’R BROSES

Mae’r canlynol yn rhestr o gamau allweddol gwaith y byddwn yn ei wneud ar eich rhan. Gall union gamau gwerthiant eiddo preswyl lesddaliadol amrywio yn ôl yr amgylchiadau.

  • Derbyn eich cyfarwyddyd a rhoi cyngor cychwynnol
  • Paratoi’r contract draft a’r dogfennau angenrheidiol i’w cymeradwyo gan eich prynwr
  • Gwneud cais am wybodaeth am y Landlord/Cwmni Rheoli, a’ch hysbysu/diweddaru
  • Rhoi cyngor ichi ar wybodaeth a dderbynnir – ffurflen gwybodaeth am yr eiddo/ffurflen gosodiadau a ffitiadau a chynnwys
  • Ateb unrhyw gwestiynau cyn contract /gofynion ar deitl y mae cyfreithiwr y prynwr/prynwyr yn eu gofyn
  • Danfon y contract terfynol atoch i’w arwyddo
  • Cytuno ar ddyddiad cwblhau (y dyddiad pan nad ydych bellach yn berchen ar y lesddaliad/eiddo)
  • Cyfnewid contractau a’ch hysbysu pan fo hyn wedi digwydd
  • Cwblhau’r gwerthiant
  • Trefnu ad-dalu unrhyw forgais/forgeisi a phridiant/pridiannau eraill ar yr eiddo ar y diwrnod cwblhau
  • Danfon yr holl ddogfennau teitl ymlaen at gyfreithiwr y perchennog/perchnogion newydd.
  • Trosglwyddo enillion net y gwerthiant ichi.

Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:

Swyddfa Yr Wyddgrug

Dion ap Geraint Williams
Nerys Wyn McKee
Nesta Myfanwy Davies
Chloe Roberts
Beti-Wyn Evans

Swyddfa Rhuthun

Delyth Geraint Williams
Ffion Medi Jones

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

 

Or use our contact form

Profiant (Diwrthwynebiad)

GRADDFA FFIOEDD

 Profiant (Diwrthwynebiad)

Dan Reolau Tryloywder yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) mae’n ofynnol inni nodi neu roi syniad o ystod gyfartalog costau/nodi’r alldaliadau sy’n daladwy (h.y. ffioedd sy’n daladwy i eraill).

Mae’n arbennig o anodd rhoi syniad cywir o’r costau ar gyfer gwaith Profiant diwrthwynebiad hyd nes y byddwn yn cael gwybodaeth benodol, megis, a oes ewyllys, natur a lleoliad yr eiddo yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno, nifer y buddiolwyr, nifer y cyfrifon banc neu gyfranddaliadau a ddelir, asedau a ddelir mewn ymddiriedolaeth ac unrhyw rwymedigaethau sy’n ddyledus i’r ystad.

Isod rydym yn nodi’r wybodaeth gyffredinol ganlynol, ac fe’ch gwahoddwn i gysylltu â ni naill ai i drefnu apwyntiad neu, os oes gennych chi wybodaeth ddigonol ar y pwynt hwn, i gysylltu â ni i gael dyfynbris ysgrifenedig o’n ffioedd.

Mae ein cyfraddau ffioedd ar gyfer trafod ystad yn amrywio rhwng £225 ac £250 yr awr yn ddibynnol ar brofiad yr enillwr ffi.

Mae pob gwaith yn cael ei oruchwylio gan uwch-gyfreithiwr.

Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr profiant:

Swyddfa Yr Wyddgrug

Dion ap Geraint Williams
Nesta Myfanwy Davies
Nerys Wyn McKee
Swyddfa Rhuthun

 

Delyth Geraint Williams

Mae’r camau allweddol canlynol y gwaith a wneir i weinyddu a dosbarthu ystâd yn cynnwys:

  • Darparu cyfreithiwr profiant penodol a phrofiadol i weithio ar eich mater
  • Adnabod yr ysgutorion a benodwyd yn gyfreithiol neu’r gweinyddwyr a buddiolwyr
  • Adnabod yn gywir y math o gais Profiant y byddwch ei angen
  • Cael y dogfennau perthnasol sydd eu hangen i wneud y cais
  • Cwblhau’r Cais Profiant a’r ffurflenni CThEM priodol
  • Drafftio datganiad o wirionedd
  • Gwneud cais i’r Llys Profiant ar eich rhan
  • Derbyn y Profiant a danfon copïau atoch mewn modd diogel
  • Casglu a dosbarthu holl asedau’r ystâd

ALLDALIADAU/ALLDALIADAU POTENSIAL SY’N DALADWY

Alldaliadau yw costau sy’n berthnasol i’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, megis ffioedd llys. Rydym yn delio â thalu alldaliadau ar eich rhan.

  • Ffi o £273 i wneud cais am Brofiant. A hefyd copi ychwanegol (wrth wneud y cais). Os bydd angen unrhyw gopïau ychwanegol o’r grant, byddant yn costio £1.50c am bob copi (1 ar gyfer pob ased fel rheol).

https://www.gov.uk/wills-probate-inheritance/applying-for-a-grant-of-representation

  • Methdaliad yn unig, chwiliadau’r Adran Pridiannau Tir (£3.20 y buddiolwr gan gynnwys unrhyw TAW)
  • Postio yn The London Gazette – Amddiffyn yn erbyn hawliadau annisgwyl gan gredydwyr anhysbys. Tua £100 a TAW.
  • Postio mewn Papur Newydd Lleol – Mae hyn hefyd yn helpu i amddiffyn rhag hawliadau annisgwyl. £190. gan gynnwys TAW

Byddai profiant cyffredin yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Mae ewyllys dilys ar gael
  • Nid oes mwy nag un eiddo
  • Nid oes yna fwy na 3 cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • Nid oes yna unrhyw asedau anniriaethol eraill
  • Nid oes mwy na 6 buddiolwr
  • Nid oes unrhyw anghydfod rhwng buddiolwyr o ran rhannu’r asedau. Os yw anghydfodau yn digwydd mae hyn yn debygol o arwain at gynnydd mewn costau.
  • Nid oes unrhyw dreth etifeddiant yn daladwy ac nid oes angen i’r ysgutorion gyflwyno cyfrif llawn i CThEM
  • Nid oes unrhyw hawliadau yn erbyn yr ystâd
  • Nid yw’n cynnwys gwerthu eiddo neu gostau gwerthu.

Yn nodweddiadol, mae’n cymryd 6 i 12 mis i gael Grant Profiant a gweinyddu’r ystâd.

Ar gyfartaledd mae’n cymryd hyd at 10 awr i gwblhau’r gwaith uchod. Os yw’r mater yn mynd yn fwy cymhleth neu os daw cais inni ymgymryd â gwaith pellach byddem yn diweddaru’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn ein llythyr Telerau ac Amodau.

Dolenni defnyddiol:

https://www.legalchoices.org.uk/?s=Probate

– gwefan gwybodaeth a gymeradwyir gan yr SRA

https://www.gov.uk/guidance/hmrc-tools-and-calculators#inheritance-tax

  • Gwefan CThEM

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

 

Or use our contact form

Ailforgeisio

AILFORGEISIO – Ffioedd Sylfaenol

 GRADDFA FFIOEDD:

Ailforgeisio:  £600.00 ynghyd â TAW

Trosglwyddiad Ecwiti:  £600.00 ynghyd â TAW

Trosglwyddiad Ecwiti ac Ailforgeisio £675.00 ynghyd â TAW

COSTAU YCHWANEGOL I’W TALU

Yn ychwanegol at y ffi sylfaenol bydd rhaid talu alldaliadau. Alldaliadau yw costau sy’n ymwneud â’ch mater sydd yn daladwy i drydydd partïon, megis Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi am ffioedd chwiliadau. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan.

 ALLDALIADAU:

Ffioedd chwiliadau sy’n daladwy fel arfer:

Chwiliadau Pridiannau Tir/Chwiliad Methdaliad £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW)
Chwiliad Methdaliad £3.20 yr enw (gan gynnwys unrhyw TAW
 

Ffioedd Cofrestrfa Tir (Cofrestru eiddo)

Bydd ein dyfynbris pris penodol yn manylu ar y gost, ond gweler y wybodaeth:

https://www.gov.uk/guidance/hm-land-registry-registration-services-fees

Ffi Indemniad Chwiliadau £35.00 (ar gyfartaledd – yn ddibynnol ar y gwerth)
Ffi Trosglwyddiad Banc (os yn berthnasol) e.e. er mwyn trosglwyddo arian y pryniant neu i dalu balans sydd yn ddyledus yn uniongyrchol i’ch banc ar ôl gwerthu eiddo. £40. ac £8. TAW
Mae’n bosib hefyd y bydd raid ichi dalu ffi dogfennaeth morgais (y mae rhai benthycwyr yn ei chodi. Cewch wybod os yw’r ffi yma’n daladwy)

 

Ar hyn o bryd mae sawl benthyciwr yn codi £25 a TAW O £5 am ddarparu dogfennau morgais. Unwaith eto, byddwn yn cadarnhau’r ffi yn ein dyfynbris pris penodol
Er mwyn boddhau gofynion Atal Gwyngalchu Arian (AML), lle bo hynny’n briodol, cynhelir chwiliad AML £5.60 yr enw dim TAW
Ffi Cyflwyno (CYFLWYNO Ffurflen Treth Dir y Dreth Stamp) £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW)
Ffi cyflwyno AP1 (i newid y Gofrestr Teitlau) £6.00 (gan gynnwys unrhyw TAW)

Mae’n bosib y bydd chwiliadau eraill yn angenrheidiol unwaith i’r holl wybodaeth am yr eiddo ddod i’r amlwg. Dim ond pan fo’r wybodaeth hon ar gael y gallwn ni roi pris llawn ar gyfer y chwiliadau. Fe wnawn ni yna ddarparu dyfynbris ysgrifenedig llawn ichi yn manylu’r holl gostau, yr alldaliadau a’r TAW.

CWMPAS Y GWAITH

Mae ein ffioedd yn cwmpasu’r holl waith sy’n angenrheidiol i gwblhau’r ail-forgeisio, gan gynnwys cofrestru gyda’r Gofrestrfa Dir. Noder bod y ffioedd a nodir yn cymryd yn ganiataol bod hwn yn drafodiad safonol ac na fydd unrhyw anawsterau nas ragwelwyd yn codi, gan gynnwys, ond heb gael eu cyfyngu i ddiffyg mewn teitl sydd angen ei gywiro cyn cwblhau neu baratoi dogfennau ychwanegol, yn ychwanegol i’r prif drafodiad.

Pan fo anhawster nas ragwelwyd yn codi neu ble mae’r modd y gofynnir inni fwrw ymlaen yn golygu gwaith ychwanegol byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu costau diwygiedig ar ffurf ysgrifenedig.

 AMCANGYFRIF AMSER AR GYFER GWAITH

Mae sawl ffactor yn pennu’r amser y bydd yn ei chymryd i gwblhau proses ailforgeisio. Mae’r broses gyfartalog yn cymryd rhwng 2 a 4 wythnos.

Fe wnawn ni, wrth gwrs, eich diweddaru fel bo angen.

CAMAU’R BROSES

Mae’r canlynol yn rhestr o brif gamau’r gwaith a wnawn ar eich rhan. Gall yr union gamau amrywio yn ôl yr amgylchiadau.

  • Derbyn eich cyfarwyddyd a rhoi cyngor cychwynnol
  • Derbyn cymeradwyaeth y cynnig morgais
  • Cynnal chwiliadau
  • Cael gafael ar ddogfennaeth cynllunio, os bydd angen
  • Rhoi cyngor ichi ar yr holl ddogfennaeth a’r wybodaeth ddaw i law
  • Mynd drwy amodau’r cynnig morgais gyda chi
  • Danfon dogfennaeth morgais atoch i’w harwyddo
  • Sicrhau chwiliadau cyn cwblhau
  • Gwneud cais i ryddhau’r blaenswm morgais
  • Cwblhau’r trafodiad
  • Gwneud cais i gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir

Manylion llawn ynghylch cymwysterau a phroffil personol ein cyfreithwyr trawsgludo:

Swyddfa Yr Wyddgrug:

Dion ap Geraint Williams
Nerys Wyn McKee
Nesta Myfanwy Davies
Chloe Roberts
Beti-Wyn Evans

Swyddfa Rhuthun:

Delyth Geraint Williams
Ffion Medi Jones

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol