Mewn unrhyw anghydfod sy’n ymwneud â phlant, lles y plentyn yw’r flaenoriaeth uchaf i ni bob tro. Yn Llewellyn-Jones mae ein cyfreithwyr sy’n arbenigo mewn gwaith teulu/plant wedi eu hachredu gyda Chymdeithas y Cyfreithwyr ac yn gymwys i gynorthwyo ym mhob mater cyfreithiol sy’n ymwneud â phlant. Mae gennym brofiad o drafod achosion gofal a gychwynnir gan Wasanaethau Cymdeithasol (a elwir yn achosion cyfraith gyhoeddus).

Mae gan ein cyfieithwyr gwybodus brofiad eang o drafod anghydfod rhwng rhieni sydd yn methu â chytuno ar drefniadau byw eu plant (a elwir yn achosion cyfraith breifat). Gan ddefnyddio dulliau datrys anghydfod, mae gan weithwyr proffesiynol Llewellyn-Jones y wybodaeth ymyrraeth i fedru lleihau unrhyw wrthdaro.

Mewn sefyllfa anffodus ble nad oes modd cyfaddawdu, rydym ni yma i’ch cynrychioli chi, a lles pennaf eich plentyn yn y Llys. Mae gan ein cyfreithwyr gryn brofiad ym maes adfocatiaeth (llys). Rydym hefyd yn defnyddio gwasanaeth sawl bargyfreithiwr sy’n arbenigo yn y gwahanol feysydd anghydfod.

 

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Gallwn gynnig cymorth a chyngor yn y meysydd canlynol:

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Cyfrifoldeb Rhiant

Ambell waith gall dogfennu cyfrifoldebau helpu i atal anghydfod i’r dyfodol. Gall Llewellyn-Jones eich cynorthwyo i greu cynllun cyfreithiol sy’n nodi cyfrifoldebau’r ddau barti.

Gall cynllun rhianta tryloyw gynnwys pethau fel trefniadau preswylio a threfniadau gwyliau ysgol. O nodi hyn oll mewn dogfen ysgrifenedig mae modd sicrhau nad yw ffiniau yn cael eu croesi ac nad oes unrhyw ddryswch i’r dyfodol. Gall gynorthwyo rhieni a phlant i ddod i gytundeb sy’n gweithio ar gyfer pawb.

Mae gan Llewellyn-Jones y profiad a’r wybodaeth i’ch helpu i lunio cynllun rhianta, yn ogystal â datrys unrhyw anghydfod a materion preswylio.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Cyswllt â Phlant

Gall Llewellyn-Jones gynorthwyo gyda phob sefyllfa sy’n ymwneud â chyswllt â phlant.

Mae gan ein cyfreithwyr brofiad eang o drafod anghydfod rhwng partïon sy’n methu cytuno ar gyswllt neu drefniadau cyswllt. Gall dogfennu cytundeb ar gyfer trefniadau gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd fod o gymorth, a hefyd y trefniadau ar gyfer gwyliau cyhoeddus.

Os nad oes modd dod i gytundeb fe allwn ni eich cynrychioli chi yn y llys gyda’n profiad eang o adfocatiaeth.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug– 01352 755305

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Preswylio Plant

Gall Llewellyn-Jones gynorthwyo gyda phob sefyllfa sy’n ymwneud â phreswylio neu gystodaeth plant. Mae gan ein cyfreithwyr brofiad eang o ddelio gydag anghydfod rhwng partïon sy’n methu â chytuno ar drefniadau preswylio ar gyfer eu plentyn/plant. Mae gan Llewellyn-Jones y wybodaeth ymyrraeth i fedru lleihau unrhyw wrthdaro mewn modd cost-effeithiol.

Gallwn eich cynrychioli yn y llys, i sicrhau’r  canlyniad gorau ar gyfer eich plentyn/plant.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug- 01352 755305

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Achosion Gofal

 Mae “achosion gofal” yn cyfeirio at sawl agwedd o faterion plant. Gall olygu:
  • Plentyn yn cael ei gynnwys ar y Gofrestr Amddiffyn
  • Cymryd rhan mewn cynadleddau Amddiffyn Plant, gan olygu o bosib bod cynllun Amddiffyn Plant yn cael ei gyhoeddi
  • Gorchmynion gofal dros dro neu orchmynion llawn,
  • Gorchmynion Amddiffyn Brys (Emergency Protection Orders – EPO) – Adran 44 Deddf Plant 1989
  • Gorchmynion Gofal – adran 31 Deddf Plant 1989
  • Gorchmynion Goruchwylio – adran 31 Deddf Plant 1989
  • Gorchmynion Llety Diogel – adran 25 Deddf Plant 1989
  • Gorchmynion Cyswllt / Cyswllt Anuniongyrchol sy’n cael eu gwneud ar gyfer rhiant, nain neu daid, brawd neu chwaer neu unrhyw berthynas arall ar gyfer plentyn mewn gofal.

Gall achosion gofal ddigwydd am sawl rheswm gan gynnwys pryder a godwyd ynghylch esgeulustod, camdriniaeth gorfforol, rywiol neu emosiynol.

Mae’n eithaf posib y bydd sawl sefydliad / unigolyn yn rhan o achosion Gofal, er enghraifft:

  • Yr Heddlu, asiantaethau iechyd, doctoriaid, ymwelwyr iechyd, ysgolion ac asiantaethau eraill
  • Yr Awdurdod Lleol – Gwasanaethau Plant
  • Cafcass ( Children and Family Court Advisory and Support Service.) – sy’n cynrychioli plant mewn achosion llys teulu. Mewn achos gofal, mae’r gweithiwr Cafcass yn cael ei adnabod fel ‘warcheidwad plant’. Bydd y gwarcheidwad yma yn penodi cyfreithiwr i gynrychioli’r plentyn.

Rydym yn ddeiliaid cytundeb cyfraith gyhoeddus Cymorth Cyfreithiol, sy’n golygu y gallwn gynorthwyo yn ddi-oed pan fo llythyr cyn achos wedi ei ddanfon atoch chi fel rhiant. Byddwch yn gymwys yn awtomatig i dderbyn cyllid cyhoeddus. Mae Mrs Marianne Evans yn Gynrychiolydd Partïon sy’n Oedolion gyda’r Cynllun Uwch Cyfraith Teulu.

Os ydych yn barti mewn achos gofal mae’n hanfodol eich bod yn ceisio cyngor.

Dolenni defnyddiol:

Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol