Mae’n hollbwysig cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Pe baech yn mynd yn analluog ac yn methu rheoli eich materion mae’n bosib y byddai angen gwneud cais i’r Llys Gwarchod. Os penderfynwch eich bod am fynd i’r afael â’r risg yma, y cam nesaf yw cwblhau Atwrneiaeth Arhosol. Gall Llewellyn-Jones eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol neu gallwn eich cynorthwyo mewn perthynas â’r drefn a’r weithdrefn a nodir gan y Llys Gwarchod.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Atwrneiaeth Arhosol

 

Mae’n hanfodol cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae penodi perthynas neu ffrind i wneud penderfyniadau allweddol ar eich rhan pe bach yn dioddef o salwch yn ffordd synhwyrol o sicrhau dyfodol diogel ar eich cyfer chi a’ch teulu.

Gelwir y cam o benodi person arall i fod yn gyfrifol am eich cyllid yn Atwrneiaeth Arhosol (Lasting Power of Attorney – LPA). Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i barti arall weithredu ar eich rhan, gan roi awdurdod iddynt wneud penderfyniadau am eich asedau a’ch arian pe baech chi’n methu gwneud hynny. Hefyd gallwch awdurdodi person arall i wneud penderfyniadau ynghylch eich lles. Gall y trefniant yma roi tawelwch meddwl i chi a’ch teulu.

Mae Llewellyn-Jones yn brofiadol yn y maes yma a bydd ein cyfreithwyr yn gweithio’n agos gyda chi, gan gynnig gwasanaeth personol sy’n adlewyrchu ein hymagwedd draddodiadol a theuluol tuag at y gyfraith.

Am gyngor neu gymorth ar baratoi Atwrneiaeth Arhosol

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Y Llys Gwarchod

 

Y Llys Gwarchod yw’r broses o roi hawl cyfreithiol i unigolyn wneud penderfyniadau ariannol a lles ar ran person sydd wedi colli’r galluedd meddyliol i wneud hynny.

Mae gennym brofiad eang o drafod yr holl faterion sy’n ymwneud â’r Llys Gwarchod ac fe allwn ni eich cynorthwyo os ydych:

  • Yn gyfrifol am reoli materion person arall
  • Yn poeni nad yw person bellach yn medru rheoli eu materion eu hunain.
  • Yn poeni nad yw person bellach yn medru rheoli materion person arall.
  • Yn poeni ynghylch eich galluedd eich hunain i reoli materion.

Cysylltwch â Llewellyn-Jones am gymorth gyda materion Y Llys Gwarchod.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol