Mae’n hanfodol cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yn aml gall peidio â chynllunio ar gyfer y dyfodol arwain at broblemau difrifol. Gall methu ag amlinellu’ch dymuniadau o ran beth sydd i ddigwydd wedi ichi farw achosi problemau diangen ar gyfer eich teulu ac fe all beri canlyniadau nas bwriadwyd.

Gyda chymorth Llewellyn-Jones, byddwch yn gallu cynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod eich dymuniadau yn cael eu gweithredu. Rydym yma i’ch cynorthwyo gyda’r meysydd canlynol:

Cysylltwch â

Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Drafftio a Diweddaru Ewyllysiau

Mae’n hanfodol cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gall methu â darparu cyfarwyddiadau cyn eich marwolaeth beri problemau, ac fe all hefyd olygu bod eich asedau neu ran ohonynt yn cael eu hetifeddu gan berson nad oeddech chi wedi bwriadu iddynt etifeddu, yn enwedig pe baech chi’n marw’n “Ddiewyllys” (heb wneud Ewyllys).

Bydd ein cyfreithwyr profiadol yn darparu cyfarwyddiadau eglur a chryno ar yr hyn sydd i ddigwydd i’ch asedau ynghyd ag unrhyw ddymuniadau sydd gennych. Gall hyn gynnwys gwneud rhoddion i unigolion/elusennau/sefydliadau a chyfarwyddiadau ar unrhyw drefniadau penodol ar gyfer eich angladd.

Os ydych am ddrafftio neu ddiweddaru Ewyllys:

Cysylltwch â

Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Treth Etifeddiant

O gynllunio’n ofalus ar gyfer Treth Etifeddiant, mae modd lleihau’n sylweddol y swm fydd raid ei dalu yn y dyfodol.

Mae gan gyfreithwyr Llewellyn-Jones gryn brofiad o helpu teuluoedd i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad o gynghori ar y camau ymarferol y dylai teuluoedd eu cymryd wrth ystyried atebolrwydd Treth. Cysylltwch â thîm Llewellyn-Jones am gyngor ar Dreth Etifeddiant.

Cysylltwch â

Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Gweinyddu Ymddiriedolaethau

Gall y gwaith o weinyddu ymddiriedolaethau fod yn broses gymhleth ar gyfer yr ymddiriedolwyr am fod rhaid trafod ffurflenni treth, dosbarthiad cyfalaf, a chyfrifon blynyddol.

Mae gan Llewellyn-Jones brofiad proffesiynol o gynnig cyngor priodol i gleientiaid ar faterion sy’n berthnasol i ymddiriedolwyr.

Os ydych chi’n ymddiriedolwr ac angen arweiniad cyfreithiol:

Cysylltwch â

Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Profiant a Gweinyddu Ystadau

Proses gyfreithiol yw Profiant a Gweinyddu Ystadau sydd i’w hymgymryd gan Ysgutorion (pan fo Ewyllys) neu Weinyddwyr (ble nad oes Ewyllys).

Fe allwn ni helpu Ysgutorion a Gweinyddwyr i gyflawni eu dyletswyddau ar ystâd a’u hystod o ddyletswyddau gan gynnwys rhai o’r canlynol:

  • Cyfrifo maint a gwerth ariannol yr ystâd a chyfrifyddu ar gyfer Treth Etifeddiant
  • Drafftio’r Llw priodol ar gyfer y Grant Profiant
  • Sicrhau Caniatâd Hawl Gweinyddu os yw’r ymadawedig wedi marw heb wneud Ewyllys
  • Cau cyfrifon banc.
  • Trosglwyddo/gwerthu eiddo neu dir.
  • Dosbarthu cyllid yr ystâd
  • Rheoli Ymddiriedolaethau

Cysylltwch â

Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol