Rwy’n llawn edmygedd o’r gwasaneth y dderbyniais gennych.  Fe wnaethoch y broses yn hawdd i mi.  Yn bwysicach na dim, fe roddwyd yr argraff eich bod chi yn malio amdanaf a fy amgylchiadau.         DM

– Ffurflen arolwg bodloni cleient – Ffion Jones Gorffennaf 2023

Diolch yn fawr iawn am eich help yn gwerthu fy nhŷ.  Diolchgar iawn.        RR

– Ffurflen arolwg bodloni cleient – Delyth Geraint Williams Mehefin 2023

Mae’n rhaid i mi ddweud ei bod hi wedi bod yn bleser llwyr cydweithio hefo chi.  Roedd eich ffordd cyfeillgar ond eto hynod broffesiynnol yn galonogol iawn, ynghyd a’ch gwybodaeth eang yn rhoi fy holl hyder ynddoch chi, eich cyngor a’r canlyniad terfynnol.

Diolch yn fawr.       ML

– Ebost i Beti Wyn-Evans WE Awst 2023

Cwmni hawdd i ddelio gyda ym mhob agwedd.

– Ffurflen arolwg bodloni cleient – Nesta Davies a Bethany Longmuir Mehefin 2023

Rydym wedi delio hefo’ch cwmni ar sawl achlysur ynglyn a trafod amryw o eiddo.  Ma hynnu ei hun yn dweud y cyfan.  Cwmni lleol, cyfrifol a sefydlog sydd wedi ein darparu hefo cyngor prydlon, proffesiynnol ar pris cystadleuol.             Diolch I & P C

 

– Ffurflen arolwg bodloni cleient Chloe Roberts Mehefin 2023

Roeddwn i eisiau gyrru ebost i chi i ddiolch i chi gyd o waelod fy nghalon am bopeth yr ydych wedi ei wneud drostai ers i mi gysylltu gyda chi am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 2021.

Rydych chi gyd, a Sarah annwyl a wnaeth adael flwyddyn dwythaf, wedi fy sefydlogi yn fwy na wyddoch chi wrth i mi fynd drwy’r siwrne gyda xxxxxxxxxxxxxx, a wnai byth anghofio hynnu.  Diolch un miliwn o weithiau am eich proffesiynoldeb, tosturi, amynedd a dibynadwyedd.  Ni fyddwn wedi gallu mynd drwy hyn i gyd hebddoch chi.     RW

 

– Ebost i Colette Fletcher, Bethany Longmuir a Gwenda Roberts Mai 2023

Hoffwn diolch yn fawr iawn am bopeth yr ydych wedi’w wneud i helpu mi brynnu fy nghartref cyntaf 🙂

‘Dwi mor hapus hefo fo, er fy mod yn gwybod bod y gwaith caled yn dechrau rwan! 🙂

Diolch eto am wneud y pryniant mor rhwydd.  Rwyf yn hynod yn ddiolchgar.      EO

– Ebost i Chloe Roberts Mehefin 2023

Dim ond eisiau diolch yn fawr gennyf i a fy nheulu am ateb ein holl gwestiynnau.  Rydym yn ddiolchgar o bopeth yr ydych wedi gallu ein helpu hefo.  Diolch yn fawr eto.       JT

– Ebost i Beti-Wyn Evans Mehefin 2023

Diolch i chi’ch dwy am gwblhau y pryniant.  Byddwn yn siwr o’ch argymell i unrhyw un arall sydd angen cyfreithiwr.

M & C

– Ebost i Beti-Wyn Evans a Dawn Price Mehefin 2023

Hoffwn ddiolch i chi’ch dwy am werthiant rhwydd ac am eich ymdrechion.  Rwy’n hynod ddiolchgar.  Gobeithio cael cydweithio hefo chi eto yn y dyfydol.

– Ebost i Delyth a Fiona Mehefin 2023

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol