Yn Ionawr 2013 daeth Llewellyn-Jones yn aelod o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Mae’r achrediad yma yn nodi fod gan ein hadran trawsgludo preswyl weithdrefnau cadarn i amddiffyn cleientiaid, yn ogystal â chynnig gwasanaeth cwsmer sydd o lefel hynod uchel. Mae gweithdrefnau tebyg yn eu lle ym maes Trawsgludo Masnachol.

Mae ein hymagwedd tuag at Drawsgludo yn golygu y gall ein cyfreithwyr gynnig gwasanaeth personol i gleientiaid sy’n wasanaeth cyflym ac wedi ei deilwrio, ac rydym gerllaw i gynorthwyo.

Mae gennym sail cwsmer mawr ar gyfer trafodiadau trawsgludo ym mhob cwr o Gymru a Lloegr ac mae’r sail yma yn cynyddu.

Gall ein cyfreithwyr profiadol eich helpu gyda’r materion cyfreithiol canlynol:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

 

Prynu a Gwerthu

Gall symud tŷ beri llawer o straen, pa un ai a ydych yn prynu am y tro cyntaf neu am ychwanegu at eich portffolio eiddo, ac mae’n bwysig sicrhau fod gennych arbenigwr i archwilio pob manylyn.

O rwymedigaethau potensial i’r dyfodol, i gytundebau cymhleth, mae sawl goblygiad potensial nad sydd efallai yn hollol amlwg.

Yma yn Llewellyn-Jones mae gennym dîm o arbenigwyr eiddo preswyl sydd â’r profiad a’r wybodaeth i sicrhau fod eich trafodiad yn digwydd yn gyflym ac esmwyth.

Rydym yn aelodau achrededig o Gynllun Ansawdd Cymdeithas y Cyfreithwyr ers 2013; mae aelodaeth barhaus yn dystiolaeth o’n hymagwedd broffesiynol tuag at drafodiadau trawsgludo preswyl.

http://www.lawsociety.org.uk/for-the-public/using-a-solicitor/quality-marks/conveyancing/

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Prynu i Osod

Mae mwy a mwy o bobl yn prynu eiddo i’w osod.

Yma yn Llewellyn-Jones mae gennym yr arbenigedd i’ch cynorthwyo gyda phob agwedd o’r broses prynu-i-osod.

Os ydych am brynu eiddo prynu-i-osod:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Prynu a Gwerthu mewn Arwerthiant

Rhaid paratoi ymlaen llaw i brynu neu werthu eiddo mewn arwerthiant ac mae’n talu ar ei ganfed cael arbenigwr cyfreithiol i’ch cynrychioli.

Pa un ai a ydych yn chwilio am gyngor cyfreithiol cyn neu wedi arwerthiant, gall Llewellyn-Jones ddarparu cyngor arbenigol:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Ail-forgeisio

Ail-forgeisio yw’r broses o newid benthyciwr neu fenthyg arian yn erbyn eiddo cyfredol. Weithiau gall y broses o ail-forgeisio fod yn gymhleth. Mae gan Llewellyn-Jones y profiad priodol a pherthnasol i drafod ail-forgeisio.

Os ydych yn ystyried ail-forgeisio eich eiddo:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Rhyddhau Ecwiti

Drwy ryddhau ecwiti gall perchnogion tai ryddhau cyllid o’u heiddo gan barhau i fyw yno. Mae mwy a mwy o bobl yn dewis gwneud hyn er mwyn iddynt wella ansawdd eu bywydau ar ôl ymddeol.

Mae gan Llewellyn-Jones brofiad priodol mewn rhyddhau ecwiti a materion ariannol. Os ydych chi am ryddhau rhan o’r ecwiti sydd yn eich eiddo a bod angen cyngor proffesiynol arnoch:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Gweithred Rodd

Gweithred rodd yw’r broses o drosglwyddo ased i berson neu barti arall neb dalu. Gall y term ‘ased’ amrywio o eiddo rhydd-ddaliadol neu brydlesol i arian a chyfranddaliadau. Tra bo’r broses yma yn un gymharol syml, bydd angen i’r perchennog sicrhau bod y dogfennau cyfreithiol cywir wedi eu cwblhau ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol a threthiant priodol cyn gwneud rhodd o’r fath.

Gall cyfreithwyr Llewellyn-Jones gynnig cyngor cynhwysfawr a phriodol.

I sicrhau bod eich ased yn cael ei drosglwyddo’n ddiogel i barti arall:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Trosglwyddiadau Ecwiti

Pan fo person yn cael ei ychwanegu neu ei dynnu oddi ar weithred(oedd) teitl, er enghraifft rhieni yn ychwanegu eu plentyn neu gwpl yn gwahanu, gelwir y broses yma yn ‘Drosglwyddiad Ecwiti’. Os oes angen tynnu enwau oddi ar weithred eiddo, gall hyn hefyd ddigwydd o ganlyniad i anghydfod.

Wrth newid eiddo o enw sengl i fod mewn enw dau berson neu enwau lluosog, mae’n hanfodol bod dogfennau cyfreithiol yn cael eu paratoi’n ofalus. Pan fo morgais ar yr eiddo sydd i’w drosglwyddo, mae’n hynod bwysig bod gweithiwr proffesiynol o brofiad yn goruchwylio’r holl broses.

Mae gennym ni, Llewellyn-Jones, y wybodaeth a’r arbenigedd i gynorthwyo gyda chwblhau Trosglwyddiadau Ecwiti:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Rhan-gyfnewid

Mae rhai perchnogion tai yn dewis defnyddio gwasanaeth rhan-gyfnewid. Mae gennym ni’r profiad perthnasol i’ch cynorthwyo ym mhob agwedd o drafodiad o’r fath i sicrhau fod pethau’n symud mor gyflym a llyfn â phosib.

Os ydych am Ran-gyfnewid eich eiddo:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Cytundebau Tenantiaeth a Phrydles

Pa un ai a ydych yn landlord neu’n denant potensial, gall cytundebau prydles a thenantiaeth fod yn gymhleth.

Mae gan ein cyfreithwyr brofiad o Gyfraith Landlord a Thenantiaeth.

Os ydych chi’n landlord neu’n denant gall ein cyfreithwyr eich cynghori ar ystod o faterion cyfreithiol, megis terfynu prydlesau, a datrys anghydfodau potensial.

Os ydych yn landlord sydd am ddrafftio cytundeb, neu’n denant sydd angen cymorth, cysylltwch â’n tîm heddiw am gyngor cyfreithiol:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug- 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Cyd-berchnogaeth

Mae llawer o bobl yn defnyddio cynllun cydberchnogaeth fel modd i brynu eiddo.

Fel arfer fe’i darperir drwy gymdeithasau tai, ac mae parti yn trefnu morgais i dalu am gyfran o dŷ ac yn talu rhent ar y gyfran sydd weddill.

Mae tai cydberchnogaeth yn eiddo prydles, sy’n golygu y byddwch yn berchen ar ran o’r rhydd-ddaliad a phrydles am gyfnod penodol o amser, 99 mlynedd fel arfer.

Gall cyfreithwyr Llewellyn-Jones eich cynorthwyo drwy eich cynghori ar delerau a gofynion cydberchnogaeth:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol