Polisïau

Polisi Preifatrwydd

 Rydym yn ymroddedig, yma yn Llewellyn-Jones i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd. Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ynddo) yn nodi ar ba sail y byddwn yn prosesu data personol a gasglwn gennych, neu ddata a ddarparwch inni. A fyddech gystal â darllen y canlynol yn ofalus fel eich bod yn deall ein safbwynt a’n hymarfer mewn perthynas â data personol a sut byddwn yn ei drafod.

I ddibenion y Ddeddf Amddiffyn Data 1998, rheolwr y data yw Llewellyn-Jones Cyf, Tŷ Fictoria, Stryd Grosvenor, Yr Wyddgrug CH7 1EJ

Gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu o bosib gennych chi

Mae’n bosib y byddwn yn casglu a phrosesu’r data canlynol amdanoch chi:

Gwybodaeth a rowch drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan

  • Os byddwch yn cysylltu â ni, mae’n bosib y byddwn yn cadw record o’r ohebiaeth honno.

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi ac mae’n bosib y codwn ffi fechan am y gwasanaeth yma.  

Cyfeiriadau IP a cwcis

Mae’n bosib y bydd ein proses gweinyddu system yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys, pan fo hynny ar gael, eich cyfeiriad IP, system weithredu a math o borwr. Mae’r data yma yn ddata ystadegol am weithredoedd a phatrwm pori ein defnyddwyr ac nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn.

Ffeil testun bychan yw cwci sy’n gofyn caniatâd i gael ei osod ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith eich bod yn cytuno, mae’r ffeil yn cael ei hychwanegu a’r cwci yn helpu i ddadansoddi’r gwe-draffig neu’n eich hysbysu unwaith ichi ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn canitau i we-gymwysiadau ymateb i chi fel unigolyn. Gall y gwe-gymhwysiad deilwrio ei weithrediadau i’ch anghenion, eich hoff a’ch cas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich hoffter.  Mae modd defnyddio cwcis traffig i adnabod pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn helpu i ddadansoddi data am draffig ar wefan ac fe all wella gwefan er mwyn ei theilwrio i anghenion cwsmeriaid.  Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i ddibenion dadansoddi ystadegol, fodd bynnag petaem am wneud hynny yn y dyfodol, ar ôl gwneud y gwaith dadansoddi, bydd y data yn cael ei ddileu o’r system. Nid yw cwci yn rhoi mynediad inni i’ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data yr ydych yn dewis ei rannu gyda ni. Os ydych am atal neu ddileu cwcis o’n gwefan, gallwch ddefnyddio’ch porwr i wneud hynny. Os oes angen i chi wirio sut i newid eich dewis cwcis, dylech fynd i ddewislen “Help” eich porwr. Gallwch gyfyngu cwcis yn yr un modd. Fodd bynnag, gall hyn olygu na fedrwch ddefnyddio’n gwefan yn ei chyfanrwydd.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio

Ni fyddwn, dan unrhyw amgylchiadau, yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw sefydliad arall.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd i’r dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, pan fo hynny’n briodol, byddwn yn eich hysbysu drwy e-bost.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Anelwn at drin pawb yn gyfartal a chyda’r un sylw, cwrteisi a pharch, waeth beth yw eu hoed, anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, rhywedd/ailaseiniad rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu statws mamolaeth a/neu unrhyw feysydd eraill a ddisgrifir fel nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

GWADIAD

Nid yw’r deunyddiau sy’n ymddangos ar y wefan hon yn cynnwys unrhyw gyngor cyfreithiol ac fe’u darperir i ddiben gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni roddir unrhyw warant, boed hynny wedi ei fynegi neu’n ymhlyg mewn perthynas â deunyddiau o’r fath. Nid yw Llewellyn-Jones yn atebol dros unrhyw wallau technegol, golygyddol, argraffyddol neu unrhyw wallau neu anwaith arall yn y wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon, ac ni fyddwn yn gyfrifol am gynnwys unrhyw we-ddelweddau neu wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r wefan hon.

 Telerau Defnyddio ar gyfer y wefan

Mae cynnwys y tudalennau ar y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Mae’n destun newid heb rybudd.

Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw warant o ran cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd neu briodoldeb y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon i unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys gwallau neu amryfuseddau ac nid ydym yn atebol am unrhyw wallau neu amryfuseddau i’r graddau y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.

Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar eich risg eich hunan, ac ni fyddwn yn atebol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw wasanaeth neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn cwrdd â’ch gofynion penodol.

Mae’r wefan hon yn cynnwys deunyddiau sy’n eiddo i ni neu a drwyddedir i ni. Mae’r deunydd yma yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r, dyluniad, y gosodiad, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir ei atgynhyrchu.

O dro i dro gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni yma er hwylustod ac i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn arwydd ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y wefan/gwefannau cysylltiol hynny.

Mae’r defnydd a wnewch o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n codi o ddefnyddio’r wefan yn y fath fodd  yn ddarostyngedig i ddeddfau Lloegr a Chymru.

RHEOLEIDDIO

 Awdurdodiad

 Awdurdodir a rheoleiddir y cwmni gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (Solicitors’ Regulation Authority – SRA) ac mae’n glynu at God Ymddygiad Cyfreithwyr. Mae Llawlyfr yr SRA yn amlinellu’r gofynion rheoleiddio.

Swyddogion cydymffurfio

 Yn 2012, ac yn unol â gofynion yr SFA cyflwynodd y cwmni gais llwyddiannus i gymeradwyo enwebiad Swyddogion Cymeradwyo fel a ganlyn:

Mr Dion ap Geraint Williams – Swyddog Cydymffurfio o ran Cyllid a Gweinyddu (COFA)

Mrs Colette Andrea Fletcher – Swyddog Cydymffurfio o ran Ymarfer Cyfreithiol (COLP)

Mae’r COFA a’r COLP yn gyfrifol am sicrhau bod prosesau yn eu lle i alluogi’r cwmni, ei reolwyr a’i gyflogeion, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y cwmni i gydymffurfio â Llawlyfr yr SRA .  Mae ganddynt gyfrifoldeb dros systemau a rheolaethau’r cwmni ac yn gyfrifol am reoli risg wrth i’r cwmni ddarparu gwasanaethau cyfreithiol.

Rheoliadau Darparu Gwasanaeth 2009

Mae gennym yswiriant indemniad proffesiynol yn unol â’n rhwymedigaethau rheoleiddio ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau uchod drwy arddangos manylion gofynnol ein Hyswiriant Indemniad Proffesiynol yn ein swyddfeydd.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

 Data Amrywiaeth Gweithlu

 Mae’r cwmni wedi cydymffurfio gyda gofynion yr SRA i gynnal ac adrodd ar Ddata Amrywiaeth yn flynyddol.

Cyhoeddi data amrywiaeth gweithlu

 Yn unol â chanllawiau’r SRA: “SRA/Ethics Guidance/Publication Framework” ni fydd y practis yn cyhoeddi’r data.

Cwynion

Rydym am gynnig y gwasanaeth gorau posib i chi. Fodd bynnag, os teimlwch ar unrhyw achlysur eich bod yn anhapus neu’n pryderu am y gwasanaeth a ddarparwyd i chi yna dylech ein hysbysu’n ddi-oed er mwyn inni wneud ein gorau i ddatrys y broblem. Yn y lle cyntaf efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi gysylltu â’r cyfreithiwr sy’n gweithio ar eich achos i drafod unrhyw bryderon ac fe wnawn ein gorau i ddatrys unrhyw faterion ar y pwynt yma. Os byddwch yn teimlo eich bod am wneud cwyn ffurfiol, yna cysylltwch â Rheolwr y Practis.

Os na fedrwn ddatrys y gwyn yna gallwch ofyn i’r Ombwdsmon Cyfreithiol edrych ar eich cwyn yn annibynnol. Mae’r Ombwdsmon Cyfreithiol yn archwilio problemau ynghylch gwasanaeth gwael gan gyfreithwyr. Cyn derbyn cwyn i’w archwilio bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn gwirio eich bod wedi ceisio datrys eich cwyn gyda ni yn y lle cyntaf. Os ydych wedi, yna rhaid ichi gymryd eich cwyn i’r Ombwdsmon Cyfreithiol:

  • o fewn chew mis o dderbyn ymateb terfynol i’ch cwyn a
  • chwe blynedd o ddyddiad y weithred/anwaith; neu
  • tair blynedd ar ôl ichi wybod yn rhesymol bod lle i gwyno (dim ond os digwyddodd y weithred mwy na chwe blynedd yn ôl). Rhaid i’r weithred neu’r anwaith, neu’r adeg y dylech fod wedi gwybod yn rhesymol bo lle i gwyno, fod wedi digwydd ar ôl 5ed Hydref 2010.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr Ombwdsmon Cyfreithiol, mae croeso ichi gysylltu  â hwy:

Ewch i www.legalombudsman.org.uk

Ffoniwch 0300 555 0333 rhwng 8.30am a 5.30pm.  Am wasanaeth minicom ffoniwch 0300 555 1777.

Ni fydd galwadau yn costio dim mwy na rhai i rifau daearyddol cenedlaethol (sy’n dechrau gyda 01 neu 02) o ffonau symudol ac o linellau tir .Recordir galwadau ac mae’n bosib y cânt eu defnyddio i ddibenion hyfforddi a monitro.

E-bost enquiries@legalombudsman.org.uk

Yr Ombwdsmon Cyfreithiol

PO Box 6806

Wolverhampton

WV1 9WJ

Peidiwch â danfon dogfennau gwreiddiol at yr Ombwdsmon Cyfreithiol. Byddent yn sganio unrhyw ddogfennau a ddanfonwch atynt i wneud copïau cyfrifiadurol gan ddinistrio’r gwreiddiol wedyn.

Os nad ydych yn dymuno cyflwyno eich cwyn yn uniongyrchol atom ni, fel y nodir uchod, efallai y gallwch gyflwyno eich cwyn ar lwyfan Datrys Anghydfodau Ar-lein y Comisiwn Ewropeaidd

(http://ec.europa.eu/consumers/odr/).

 

 

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol