Rydym yn danfon Ffurflenni Boddhad Cleientiaid yn rheolaidd i’n cleientiaid er mwyn iddynt eu cwblhau a’u dychwelyd atom, gan wneud hynny’n ddienw os mai dyna yw eu dymuniad. Mae llawer yn cael eu dychwelyd, gyda rhai yn nodi manylion cyswllt, eraill yn anhysbys. Rydym yn derbyn llawer o gardiau diolch a, mwyfwy, e-negeseuon o ddiolch.

Yn ein barn ni, mae’r lefel uchel o gleientiaid sy’n dychwelyd atom yn dystiolaeth ynddo’i hun.

Ceir sampl o ymatebion isod.


    Rhowch eich barn am y gwasanaeth gan ddefnyddio’r canllaw canlynol;

    1 – Cytuno’n gryf, 2 – Anghytuno, 3 – Ddim yn cytuno nac anghytuno, 4 – Cytuno, 5 – Cytuno’n gryf

    Oeddem ni’n gwrtais a phroffesiynol yn ein hymwneud â chi?>

    Pa mor wybodus oedd ein staff?

    A fyddech chi’n ein hargymell ni i ffrind?

    Ydych chi’n teimlo bod y ffioedd a godwyd yn deg?

    Oedd y wybodaeth dechnegol yn foddhaol?

    Cyngor

    A wnaethom ni egluro’r gyfraith a’r weithdrefn mewn modd hawdd ei deall?

    Ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch?

    A gawsoch chi wybodaeth eglur a’ch diweddaru drwy gydol y mater?

    Ydych chi’n teimlo bod y cyngor a roddwyd ichi yn addas a’i fod yn ystyriol o’ch amgylchiadau?

    Ydych chi’n teimlo’n hyderus inni ddangos bod trin cleientiaid yn deg yn fater pwysig i’r cwmni?



    Diolch am gwblhau’r holiadur hwn. Mae eich ymatebion yn gwbl gyfrinachol. Fodd bynnag, os hoffech inni gysylltu â chi i drafod unrhyw un o’r materion a godwyd, a fyddech cystal â nodi eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt isod.

    Os nad oes angen inni gysylltu â chi, gadewch yr adran hon yn wag




    • Achrediadau

    • Conveyancing Quality
    • Family Law Advanced
    • Resolution
    • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol