Polisïau ac ymwadiad

Polisi Preifatrwydd

Mae Llewellyn-Jones wedi ei gofrestru fel Rheolydd Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch inni i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ichi, yn unol â’ch cyfarwyddiadau. Yn Llewellyn-Jones rydym yn ymrwymo i amddiffyn a pharchu eich preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeiriwn atynt yma) yn nodi ar ba sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi, neu y byddwch yn ei ddarparu inni, yn cael ei brosesu gennym ni. Gofynnwn ichi ddarllen y canlynol yn ofalus fel eich bod yn deall ein barn a’n harferion o ran eich data personol a sut y byddwn yn ei drin.

Privacy Policy

 Gwybodaeth y gallwn ei chasglu gennych chi

Mae’n bosib y byddwn yn casglu a phrosesu’r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:

  • Gwybodaeth yr ydych yn ei darparu drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan
  • Os ydych yn cysylltu â ni, mae’n bosib y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch chi.

Gwybodaeth a ddarperir gennych drwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan

  • Os ydych yn cysylltu â ni, efallai y byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch.

Os ydych yn gleient dan y cynllun cymorth cyfreithiol, yna mae’n bosib y bydd angen inni rannu rhywfaint o’r wybodaeth honno, neu’r holl wybodaeth gyda’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol a / neu gyda’n harchwilwyr sicrhau ansawdd.

Mae’n bosib y bydd angen inni rannu rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwybodaeth gydag archwilwyr sicrhau ansawdd er mwyn iddynt fedru asesu p’un ai a ydym yn cadw at safonau ansawdd. Bydd unrhyw archwiliad yn cael ei reoli’n llym a’i rhannu at unig ddiben sicrhau ein bod y modd yr ydym yn trafod eich mater yn cwrdd â gofynion y safon ansawdd. Rhowch wybod inni os ydych yn fodlon inni rannu’r wybodaeth honno.

Mae’n bosib y bydd angen inni rannu rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwybodaeth gyda thrydydd partïon eraill. Gall hyn gynnwys bargyfreithwyr; arbenigwyr; ac eraill y mae angen inni eu cyfarwyddo i’n cynorthwyo gyda’ch mater, yr Ombwdsmon Cyfreithiol (os ydych yn cwyno am ein gwasanaeth) a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (y corff statudol sydd yn rheoleiddio cyfreithwyr). Wrth wneud hynny fe wnawn ni sicrhau ar bob achlysur bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn ddiogel. Byddwn yn cysylltu â chi yn ystod eich achos ynghylch pa arbenigwyr, bargyfreithwyr a thrydydd partïon yr ydym am eu cyfarwyddo ar eich rhan. Ceir rhagor o fanylion yn ein Telerau ac Amodau.

 

Bydd eich data yn cael ei gadw gennym am gyhyd ag sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol i chi, ac yna dim ond am gyhyd ag sydd ei angen naill ai’n gytundebol neu o ran ein rhwymedigaethau rheoleiddio. Wedi’r cyfnod hwn, byddwn yn dinistrio’n gyfrinachol yr holl wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi, heblaw am eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni, y bydd rhaid inni barhau i’w ddal er mwyn sicrhau nad ydym yn gweithredu ar ran cleient arall ble byddai gwneud hynny yn gwrthdaro gyda’n rhwymedigaethau cyfrinachedd i chi.

Cyfeiriadau IP a chwcis

Mae’n bosib y bydd ein proses gweinyddu system yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys ble mae hynny ar gael, eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a’ch porwr. Mae hyn yn ddata ystadegol am weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr ac nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn.

Ffeil testun bychan yw cwci sydd yn gofyn am ganiatâd i gael ei gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith ichi gytuno, mae’r ffeil yn cael ei hychwanegu ac mae’n helpu i ddadansoddi gwe-draffig neu’n rhoi gwybod ichi  pan fyddwch yn ymweld â gwefan benodol. Mae cwcis yn caniatáu i gymwysiadau gwe ymateb ichi fel unigolion. Gall y gwe-gymhwysiad deilwrio ei weithrediadau i’ch gofynion, eich hoff bethau a’ch cas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth ynglŷn â’ch dewisiadau. Mae modd defnyddio cwcis traffig i adnabod pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn o gymorth wrth ddadansoddi data am draffig ar wefan, ac mae’n gallu gwella gwefan er mwyn ei theilwrio at ddibenion y cwsmer. Nid ydym ar hyn o bryd yn defnyddio’r wybodaeth yma at ddibenion ystadegol, fodd bynnag pe gwnawn ni hynny yn y dyfodol, ar ôl dadansoddi bydd y data yn cael ei ddileu o’r system. Nid yw cwci yn rhoi mynediad inni i’ch cyfrifiadur na’ch gwybodaeth mewn unrhyw ffordd, heblaw am ddata yr ydych yn dewis ei rannu gyda ni. Os ydych am atal neu ddileu cwcis o’n gwefan, gallwch ddefnyddio eich porwr i wneud hyn. Os hoffech wirio sut i newid eich dewisiadau cwcis, ewch i ddewislen “Cymorth” eich porwr. Mae modd cyfyngu cwcis yn yr un modd. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan hon.

.Defnyddio’r wybodaeth

Ni wnawn ni dan unrhyw amgylchiadau werthu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw sefydliad arall.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn cael eu postio ar y dudalen hon a, ble mae hynny’n briodol, byddwn yn eich hysbysu drwy e-bost.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Anelwn at drin pawb yn gyfartal a gyda’r un sylw, cwrteisi a pharch, waeth beth yw eu hoed, anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, rhywedd/ail-bennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws beichiogrwydd neu famolaeth a/neu unrhyw feysydd eraill a ddisgrifir fel nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

YMWADIAD

Nid yw’r deunyddiau sy’n ymddangos ar y wefan hon yn gyngor cyfreithiol ac fe’i darperir at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni roddir unrhyw warant, bod hynny’n ddatganedig neu oblygedig, mewn perthynas â deunyddiau o’r fath. Ni fydd Llewellyn-Jones yn atebol dros unrhyw wallau neu anwaith technegol, golygyddol, teipograffyddol neu unrhyw wallau neu anwaith eraill yn y wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon, ac ni fyddwn ychwaith yn gyfrifol am gynnwys unrhyw we-ddelweddau neu wybodaeth a gysylltir â’r wefan hon.

Telerau Defnyddio ar gyfer y Wefan

Mae cynnwys y tudalennau ar y wefan hon at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Mae’n destun newid heb rybudd.

Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw warant o ran cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd neu briodoldeb y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon i unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys gwallau neu amryfuseddau ac nid ydym yn atebol am unrhyw wallau neu amryfuseddau i’r graddau eithaf y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.

Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar eich risg eich hunan, ac ni fyddwn yn atebol dros hynny. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw wasanaeth neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn cwrdd â’ch gofynion penodol.

Mae’r wefan hon yn cynnwys deunyddiau sy’n eiddo i ni neu a drwyddedir i ni. Mae’r deunydd yma yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r, dyluniad, y gosodiad, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir ei atgynhyrchu.

O dro i dro gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni yma er hwylustod ac i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn arwydd ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y wefan/gwefannau cysylltiol hynny.

Mae’r defnydd a wnewch o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n codi o ddefnydd o’r fath o’r wefan hon yn ddarostyngedig i ddeddfau Lloegr a Chymru.

 

 

 

 

 

 

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol