Pan fo perthynas yn chwalu, yn aml gall y dyfodol ymddangos yn ansicr. Dyna pam ei bod hi’n hollbwysig eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol cyn gynted ag y bo modd i sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor gorau ar gyfer eich dyfodol a dyfodol eich teulu.

Rydym yn aelod o Uwch Banel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Rydym yn aelod o Resolution. Mae aelodau Resolution yn ymroi i weithio mewn modd adeiladol ac anwrthdrawol.

Mae Colette Fletcher yn Gyfreithwraig sydd wedi ei hyfforddi i weithio yn y dull Cydweithredol. Pan fo perthynas yn chwalu, wrth ddefnyddio’r dull yma byddwch chi, eich gwrthwynebydd a’r ddau gyfreithiwr yn cwrdd i geisio trafod pethau wyneb yn wyneb, ac i geisio datrys y materion heb fynd i’r llys. Maent yn ymroi i gyflawni’r canlyniadau gorau drwy gytuno yn hytrach na mynd drwy achos llys. Fodd bynnag mae’r broses yn golygu na all y cyfreithwyr eich cynrychioli chi yn y llys os yw’r broses gydweithredol yn methu.

Mae gennym brofiad eang o adfocatiaeth ac fe allwn ofalu am eich achos yn y Llys.

Rydym wedi ein lleoli yn Yr Wyddgrug, sydd â chysylltiadau ffyrdd ardderchog i drefi a dinasoedd cyfagos, ac yn falch o fedru cynnig i’n cleientiaid yr un sgiliau ac arbenigedd ar gyfraddau cystadleuol iawn. Mae ein harbenigwyr cymeradwy, yn eu plith Bargyfreithwyr, arbenigwyr Ariannol/Pensiwn, cyfieithwyr, asiantau ymholi ac arbenigwyr iechyd, wedi eu dethol yn ofalus o bob cwr o Ogledd Lloegr a Gogledd Cymru, yn seiliedig ar ansawdd eu gwasanaeth a’u pris.

Gwelwyd sawl newid tros y blynyddoedd diwethaf i gyllid Cymorth Cyfreithiol. Rydym yn parhau i ymrwymo i gynnal contract gyda’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ar gyfer materion sy’n dal i fod yn gymwys ar gyfer cyllid cyhoeddus, gan gynnwys cyfraith gyhoeddus, plant a thrais domestig.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth Ffi Sefydlog ar gyfer cyngor teuluol.

Gyda phrofiad o drafod anghenion cymhleth ein cleientiaid, gallwn gynnig cymorth yn y meysydd cyfraith teulu canlynol:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Ysgaru a Gwahanu

Nid yw ysgaru’n digwydd bob tro yn ddigymhlethdod. Gall pethau fynd yn gymhleth pan fo anghytundeb dros asedau, trefniadau ariannol, a threfniadau ar gyfer plant. Gall hyn greu straen ychwanegol yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd, yn enwedig pan fo plant dan sylw.

Pan fo’r materion yn gytûn a phan fo’r broses o wahanu ac ysgaru yn ymddangos fel proses ddigymhlethdod mae’n bwysig ceisio cyngor i sicrhau bod yr ymraniad asedau/cyllid a gytunir yn cael ei gofnodi i osgoi unrhyw ddryswch i’r dyfodol (mae hyn yn cael ei alw’n “doriad llwyr”).

Fel arbenigwyr cyfraith teulu profiadol, gall cyfreithwyr Llewellyn-Jones reoli’r holl broses gyfreithiol, amddiffyn eich buddiannau a delio gyda’r broses mor gyflym a didrafferth â phosib.

Hefyd mae gennym brofiad o drafod:

  • Priodasau tramor
  • Cleientiaid sy’n byw dramor

Rydym yn cynnig gwasanaeth Ffi Sefydlog ar gyfer y cyfweliad cychwynnol, sydd yn  ddechreubwynt ar eich sefyllfa bresennol, yr opsiynau sydd ar gael a chyngor a chymorth cyffredinol.

Mae ein cyfreithwyr teulu yn aelodau o Resolution ac yn ymroi i fabwysiadu dull anwrthdrawol o ddatrys materion teuluol.

Mae Colette Fletcher yn Gyfreithwraig sydd wedi ei hyfforddi i weithio’n Gydweithredol. Gyda’r dull cydweithredol o drafod tor-perthynas rydych chi, eich gwrthwynebydd a’r ddau gyfreithiwr yn cwrdd i geisio dod i gytundeb wyneb yn wyneb ac i geisio datrys y materion heb fynd i’r llys. Maent yn ymroi i gyflawni’r canlyniadau gorau drwy gytundeb yn hytrach na thrwy achos llys. Fodd bynnag mae’r broses yn atal y cyfreithwyr rhag eich cynrychioli chi yn y llys os yw’r broses gydweithredol yn methu.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

Diddymu Partneriaeth Sifil

Gall Diddymu Partneriaeth Sifil fod yn gymhleth pan fo anghytundeb dros asedau, trefniadau ariannol a phlant.

Pan fo’r materion yn gytûn a phan fo’r gwahanu yn ymddangos fel proses syml, mae’n bwysig ceisio cyngor i sicrhau bod yr ymraniad asedau/cyllid a gytunir yn cael ei gofnodi i osgoi unrhyw gymhlethdodau i’r dyfodol (mae hyn yn cael ei alw’n “doriad llwyr”).

Fel arbenigwyr cyfraith teulu profiadol, gall cyfreithwyr Llewellyn-Jones reoli’r holl broses gyfreithiol, amddiffyn eich buddiannau a delio gyda’r broses mor gyflym a didrafferth â phosib.

Hefyd mae gennym brofiad o drafod:

  • Priodasau tramor
  • Cleientiaid sy’n byw dramor

Rydym yn cynnig gwasanaeth Ffi Sefydlog ar gyfer y cyfweliad cychwynnol, sydd yn ddechreubwynt  ar gyfer eich sefyllfa bresennol, yr opsiynau sydd ar gael a chyngor a chymorth cyffredinol.

Mae ein cyfreithwyr teulu yn aelodau o Resolution ac yn ymroi i fabwysiadu dull anwrthdrawol o ddatrys materion teuluol.

Mae Colette Fletcher yn Gyfreithwraig sydd wedi ei hyfforddi i weithio’n Gydweithredol. Gyda’r dull cydweithredol o drafod tor-perthynas rydych chi, eich gwrthwynebydd a’r ddau gyfreithiwr yn cwrdd i geisio dod i gytundeb wyneb yn wyneb ac i geisio datrys y materion heb fynd i’r llys. Maent yn ymroddedig i gyflawni’r canlyniadau gorau drwy gytundeb yn hytrach na thrwy achos llys. Fodd bynnag mae’r broses yn atal y cyfreithwyr rhag eich cynrychioli chi yn y llys os yw’r broses gydweithredol yn methu.

Am gyngor ar ddiddymu partneriaeth sifil:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Anghydfodau Cydfyw

Weithiau mae cyplau yn dewis byw gyda’i gilydd mewn perthynas hirdymor heb briodi, ac yn aml mae pethau’n mynd yn gymhleth pan fod anghydfod yn codi. Yn groes i’r gred, nid oes y fath beth â gŵr neu wraig ‘cyfraith gwlad’, ac felly os yw’r cwpl yn gwahanu, mae’r hawliau sydd ganddynt yn hollol wahanol.

Pan nad oes gan gwpl unrhyw fwriad i briodi, fe’u cynghorir i arwyddo Cytundeb Cydfyw yn gynnar yn y berthynas. Mae’r ddogfen gyfreithiol yma yn amlinellu cytundeb rhwng y ddau barti, gan fynd i’r afael ag ystod o faterion potensial, gan gynnwys: taliadau morgais, perchnogaeth cynnwys, treuliau a mwy.

Yn absenoldeb cytundeb cydfyw ac os cyfyd anghydfod rhwng cwpl sy’n cydfyw, gall arbenigwyr Llewellyn-Jones gynnig cymorth cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar:

  • Y cartref teuluol ac asedau eraill
  • Materion rhianta
  • Setliadau ariannol
  • Etifeddiaeth

I dderbyn cyngor cyfreithiol ar eich hawliau fel partner sy’n cydfyw:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

Or use our contact form

Cytundebau Cyn-Priodi

Gyda phob ased yn ased priodasol unwaith iddynt briodi, mae nifer o gyplau bellach yn arwyddo cytundebau cyn-priodi er mwyn cofnodi’n gyfreithiol beth sy’n eiddo i bob partner. Drwy wneud hyn, mae modd diogelu buddiant pob parti i’r dyfodol, gan olygu y byddai gwahanu yn broses haws a mwy tryloyw petai’r berthynas yn chwalu. Gall hyn atal anghydfod yn yr hirdymor ac fe all liniaru rhywfaint ar y straen, yn enwedig pan fo plant dan sylw.

Os hoffech ragor o wybodaeth am gytundebau cyn-priodi:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

 

 

Or use our contact form

Setliadau Ariannol

Gydag ysgariad, gall y setliad ariannol fod yn bryder mawr. Boed hynny yn drafod eiddo, yn y DU neu dramor, cynnwys, arian neu hyd yn oed gyfranddaliadau, mae’n hollbwysig eich bod yn ceisio gwybodaeth gyfreithiol i sicrhau fod eich buddiannau yn cael eu hamddiffyn.

Mae gan Llewellyn-Jones dîm o gyfreithwyr profiadol sydd wedi derbyn achrediad arbennig yr Uwch Banel Cyfraith Teulu.

Mae hyn yn golygu ein bod yn gymwys i roi cyngor arbenigol mewn achosion llareiddiad ategol, gan gynnwys setliadau ar gyfer asedau o werth uchel. Mae lefel y gefnogaeth a rown yn hynod uchel gan gynnwys cysylltu gyda thrydydd parti ar gyfer cleientiaid sydd ag anghenion cymhleth.

Bydd angen i’r ddau barti ddogfennu eu cyllid a’u hasedau cyn dod i gytundeb ac felly, mae’n hanfodol eich bod yn ceisio cymorth cyfreithiol cyn gynted ag y bo modd. Bydd ein tîm yn gallu cyfrifo unrhyw gyfraniadau ariannol, dyled gyfredol ac unrhyw ffactorau eraill y bydd angen eu datgelu cyn cytuno ar setliad. Gallwn hefyd gynorthwyo gyda’r meysydd canlynol:

  • Anghydfod ynghylch eiddo
  • Pensiynau
  • Asedau busnes
  • Cytundebau gwahanu
  • Trosglwyddo eiddo

Am gyngor ar setliadau ariannol:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

Or use our contact form

Trais Domestig

Gall camdriniaeth ddomestig ddigwydd mewn sawl ffordd a ffurf wahanol. Pa un ai a ydych wedi cael eich cam-drin yn gorfforol, rhywiol neu hyd yn oed yn emosiynol, mae’n hanfodol eich bod yn ceisio cymorth cyn gynted ag y bo modd.

Gan weithio ar ran dynion a merched, bydd tîm Llewellyn-Jones yn sicrhau nad ydych ar eich pen eich hun. Mae ein cyfreithwyr yn brofiadol a gwybodus a byddent yn darparu’r holl wybodaeth a’r cyngor sydd ei angen arnoch i gymryd y camau pwysig nesaf hynny.

Mae ein cyfreithwyr wedi ennill dyfarniad achrediad arbenigol gan yr Uwch Banel Cyfraith Teulu.

, sy’n cydnabod cyfreithwyr a ddarparodd cymorth eithriadol ar gyfer pobl a brofodd drais yn y cartref. Gall ein staff cyfeillgar eich cynorthwyo gyda’r meysydd canlynol:

  • Amddiffyniad yr Heddlu
  • Gwaharddebau
  • Materion ariannol
  • Plant

Mae gan Llewellyn-Jones gysylltiadau hefyd gyda sawl sefydliad a all gynnig cyngor ac arweiniad, yn eu plith:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

Or use our contact form

Cyfrifoldeb Rhiant

Weithiau gall dogfennu cyfrifoldebau helpu i atal gwrthdaro i’r dyfodol. Gall Llewellyn-Jones eich helpu i greu cynllun cyfreithiol sy’n nodi cyfrifoldeb y ddau barti.

Gall cynllun rhianta tryloyw gynnwys amlinelliad o bethau fel trefniadau preswylio a threfniadau ar gyfer gwyliau ysgol. Mae nodi hyn ar bapur yn ffordd o sicrhau nad yw ffiniau yn cael eu croesi gan atal unrhyw ddryswch i’r dyfodol. Fe all fod o gymorth ar gyfer y rhieni a’r plant i ddod i gytundeb sy’n gweithio ar gyfer pawb.

Mae gan Llewellyn-Jones y profiad a’r wybodaeth i’ch cynorthwyo i amlinellu cynllun rhianta, yn ogystal â datrys unrhyw anghydfod a materion preswylio.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

Or use our contact form

Cyswllt â Phlant

Gall Llewellyn-Jones gynorthwyo gyda phob sefyllfa ble ceir cyswllt â phlant.

Mae gan ein cyfreithwyr brofiad eang o ddelio gydag anghydfod rhwng partïon sy’n methu cytuno ar drefniadau cyswllt. Gall dogfennu cytundeb ar gyfer trefniadau gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd fod yn ddefnyddiol fel y gall trefniadau ar gyfer gwyliau cyhoeddus.

Os nad oes modd dod i gytundeb, gallwn ni eich cynrychioli chi yn y llys ac mae gennym brofiad eang o adfocatiaeth.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

Or use our contact form

Preswylio Plant

Gall Llewellyn-Jones gynorthwyo gyda phob sefyllfa preswylio plant a chystodaeth plant.

Mae gan ein cyfreithwyr brofiad eang o ddelio gydag anghydfod rhwng partïon sy’n methu cytuno ar drefniadau preswylio ar gyfer eu plentyn/plant. Mae gan Llewellyn-Jones y wybodaeth ymyrraeth i fedru lleihau unrhyw wrthdaro mewn modd cost effeithiol.

Rydym yma i’ch cynrychioli chi yn y llys, i sicrhau’r canlyniad gorau ar eich cyfer chi a’ch plentyn/plant.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

Or use our contact form

Achosion Gofal

Mae’r geiriau “achosion gofal” yn cyfeirio at sawl agwedd o faterion plant. Gall hyn gynnwys:

  • Plentyn yn cael ei gynnwys ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
  • Cymryd rhan mewn cynadleddau amddiffyn plant ble mae cynllun Amddiffyn Plant yn cael ei gyhoeddi
  • Gorchmynion gofal dros dro neu lawn,
  • Gorchmynion Amddiffyn Brys (Emergency Protection Orders – EPO) – Adran 44 o Ddeddf Amddiffyn Plant 989
  • Gorchmynion Gofal – adran 31 o Ddeddf Plant 1989
  • Gorchmynion Goruchwylio – adran 31 o Ddeddf Plant 1989
  • Gorchmynion Llety Diogel – adran 25 o Ddeddf Plant 1989
  • Gorchmynion Cyswllt / Cyswllt anuniongyrchol a wneir ar gyfer rhiant, nain neu daid neu frawd neu chwaer neu berthynas arall ar gyfer plentyn mewn gofal

Gall achosion gofal gael eu dechrau am sawl rheswm, gynnwys pryderon a godwyd ynghylch amddifadedd, camdriniaeth gorfforol, rywiol neu emosiynol.

Gall nifer o sefydliadau / unigolion fod yn rhan o achosion gofal, er enghraifft:

  • Yr Heddlu, asiantaethau iechyd, doctoriaid, ymwelwyr iechyd, ysgolion ac asiantaethau eraill
  • Yr Awdurdod Lleol – Gwasanaethau Plant
  • Cafcass (Children and Family Court Advisory and Support Service.) – sydd yn cynrychioli plant mewn achosion llys teulu. Gelwir y gweithiwr Cafcass, pan fo ef/hi yn gweithio ar achosion gofal, yn ‘warcheidwad plant’. Bydd y gwarcheidwad yn penodi cyfreithiwr i gynrychioli’r plentyn.

Mae gennym gontract cyfraith gyhoeddus Cymorth Cyfreithiol sy’n golygu y gallwn ni gynorthwyo yn ddi-oed pan fo llythyr cyn achosion wedi ei ddanfon atoch chi fel rhiant. Byddwch yn gymwys yn awtomatig i dderbyn cyllid cyhoeddus.

Rydym ni yn Llewellyn-Jones yn aelod o Uwch Banel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Cyfreithwyr (Cynrychiolydd Partïon sy’n Oedolion).

.

Os ydych chi’n barti mewn achosion gofal mae’n hanfodol eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol gan un o’n cyfreithwyr profiadol yma yn Llewellyn-Jones.

Dolenni defnyddiol:

Cafcass :

https://www.cafcass.gov.uk/about-cafcass.aspx

Deddf Plant 1989

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1989/41/section/31

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswll

Or use our contact form

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol