Croeso
Croeso
Croeso

Croeso

 

Daeth sawl e-bost twyllodrus yn gofyn am arian i’n sylw’n ddiweddar sy’n ymddangos fel petaent wedi dod o gyfrifon e-bost Llewellyn-Jones. Gofynnwn ichi beidio ag ateb yr e-byst hyn, a’u dileu’n syth. Os ydych yn ansicr a yw e-bost yn ddilys neu’n dwyllodrus, codwch y ffon i wirio gyda ni.

Rydym yn parhau i fod yn ymwybodol o gyngor Llywodraeth y DU a Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch coronafeirws a byddwn yn addasu ein gweithdrefnau yn unol ag unrhyw gyngor a ddiweddarir.

Mae ein swyddfeydd ar agor o ddydd Llun hyd ddydd Gwener o 9yb hyd 1yp ac o 2yp hyd 5yp.

 

Mae Llewellyn-Jones yn gwmni cyfreithiol sydd wedi’i hen sefydlu gyda’i swyddfeydd mewn dwy dref marchnad yng Ngogledd Cymru – Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint a Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Ar gyfer amseroedd agor a rhifau cyswllt, edrychwch ar dudalennau cyswllt Yr Wyddgrug neu Rhuthun,  neu defnyddiwch y ffurflen isod i ddanfon ymholiad.

Tra’n bod yn mawr obeithio y byddwch o’r farn bod ein gwefan yn llawn gwybodaeth, fe’ch anogwn i gysylltu â ni i drafod eich sefyllfa a’ch gofynion penodol, naill ai drwy’r ffurflen ymholiad e-bost ar y wefan hon neu drwy ffonio:

Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

E Bost: Yr Wyddgrug post@llew-jones.co.uk

E Bost: Rhuthun post@llew-jonesrhuthun.co.uk

Fe ddewch chi o hyd i Wybodaeth am ein Costau â’n Gwasanaeth <https://www.llew-jones.co.uk/en/services/costs-and-service-information/> ar gyfer trawsgludo preswyl, profiant (diwrthwynebiad) a moduro (crynodeb yn unig) dan brif bennawd Ein Gwasanaethau <https://www.llew-jones.co.uk/en/services/>.

Mae’n siŵr y bydd ymwelwyr i’n gwefan yn gwerthfawrogi nad yw hi’n bosib cyhoeddi dyfynbris rhwymol ar gyfer pob senario, a gall trafodaeth ynglŷn â’ch amgylchiadau unigol ddatgelu bod y pris yn uwch neu’n is. Byddwn yn parhau i ddarparu dyfynbrisiau ysgrifenedig ar gyfer costau ac alldaliadau unwaith bod gennym ni’r holl wybodaeth

Hysbysiad Preifatrwydd Gwefan Mai 2018

Bydd unrhyw ddata a gyflwynwch gan ddefnyddio unrhyw ffurflenni gysylltu â ni, ar unrhyw dudalen o’r wefan hon, yn cael ei gadw gan Llewellyn-Jones fel Rheolwr Data a’i ddal mewn modd diogel ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data/Deddf Diogelu Data 2018 am 6/12 mis cyn iddo gael ei ddinistrio mewn modd diogel a chyfrinachol.

Ni fydd eich data yn cael ei ddatgelu i unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd neu fel y caniateir fel arall gan y ddeddfwriaeth Diogelu Data perthnasol, a dim ond ar gyfer ymateb i’ch ymholiad (neu at ddibenion yn gysylltiedig â’r diben hwnnw) y caiff ei ddefnyddio.

Mae gennych hawl i gael gwybod pa ddata sydd gennym ni amdanoch, ynghyd â hawliau eraill a nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau dan y ddeddfwriaeth diogelu data ar gael yn www.ico.org.uk

 

Cyswllt Cyflym

Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.





    Byddai o gymorthinni petaech yn cwblhau'r canlynol::

    Sut glywsoch chi amdanom?:



    Awgrymiad gan cyswllt personol

    Awgrymiad gan fusnes lleol


    Ailadrodd busnes/cleient presennol

    Tudalen Facebook


    • Achrediadau

    • Conveyancing Quality
    • Family Law Advanced
    • Resolution
    • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol