Sefydlwyd y practis yn Yr Wyddgrug tua 100 mlynedd yn ôl gan Frederick Llewellyn-Jones ac mae ei hanes yn un diddorol gyda sawl cynbartner wedi symud ymlaen i benodiadau sifil a chyfreithiol o fri.

Mae’r practis yn gwasanaethu anghenion cleientiaid preifat a busnes fel ei gilydd, nid dim ond yn ardal lled-wledig Yr Wyddgrug ac ardal wledig Rhuthun, ond hefyd yn ehangach ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru, Cilgwri a Swydd Gaer.

Mae ein swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am-5.00pm. Mae modd gwneud apwyntiadau tu hwnt i’r oriau hyn drwy drefniant ymlaen llaw.

Mae cyfleusterau cynadleddau ar gael yn ein swyddfa yn Yr Wyddgrug, nid yn unig ar gyfer cyfarfodydd gyda’n cleientiaid ein hunain, ond i ddiben cyfarfodydd cyfryngu neu setliadau rhwng partïon croes a’u cynrychiolwyr ble mae lle iddynt gwrdd ar wahân yn y swyddfa gan olygu bod trafodaethau yn cael symud yn eu blaenau heb orfod sicrhau cyfleusterau allanol. Gallwn gynnig apwyntiadau tu hwnt i oriau gwaith pan fo angen ar gyfer trafodaethau o’r fath, o drefnu ymlaen llaw. Cafwyd hwn i fod yn wasanaeth gwerthfawr ac mae’n faes sy’n tyfu yn ein practis.

Mae gennym faes parcio mawr yn Yr Wyddgrug felly pan fo cleientiaid yn cymryd amser o'r gwaith ddod i'n gweld, nid oes angen treulio amser ychwanegol yn chwilio am le i barcio yn enwedig pan fo hi'n ddiwrnod marchnad prysur. Mae'r ddau ffactor yma o gymorth mawr pan fo cleientiaid o du hwnt i'r ardal leol yn dewis defnyddio'n gwasanaethau oherwydd cyfraddau cystadleuol practis canol tref o'i gymharu â phractis canol dinas. Mae mynediad di-rwystr ar gael i'n swyddfa yn Yr Wyddgrug.

Cyswllt Cyflym

Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.





    Byddai o gymorthinni petaech yn cwblhau'r canlynol::

    Sut glywsoch chi amdanom?:



    Awgrymiad gan cyswllt personol

    Awgrymiad gan fusnes lleol


    Ailadrodd busnes/cleient presennol

    Tudalen Facebook


    Mae Llewellyn-Jones yn enw masnachu ar gyfer Llewellyn-Jones Cyfyngedig.
    Swyddfa gofrestredig: Tŷ Fictoria, Stryd Grosvenor, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1EJ.
    Cofrestrwyd yn Lloegr a Chymru.
    Rhif Cofrestru Cwmni 07414162.
    Rhif Cofrestru TAW 160 6597 53
    Awdurdodir a Rheoleiddir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
    Rhif Cofrestru 557403
    Dan gontract gyda'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol
    • Achrediadau

    • Conveyancing Quality
    • Family Law Advanced
    • Resolution
    • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol