
Sefydlwyd y cwmni yn agos i 100 mlynedd yn ôl yn nhref marchnad Yr Wyddgrug, ac 25 mlynedd yn ôl yn nhref marchnad wledig Rhuthun, ac rydym wedi llwyddo i greu cysylltiadau rhagorol gyda llawer o fusnesau a sefydliadau lleol. Rydym yn cyfrannu at nifer o brosiectau ac elusennau cymunedol, ac yn falch bod sawl aelod o’n staff yn gwneud gwaith ychwanegol yn y gymuned, er enghraifft gyda’r Rotary, neu’n Ymddiriedolwyr ar Eglwysi a Phwyllgorau lleol a thimau pêl-droed lleol. Rydym yn gefnogol o’n gweithwyr yn y practis sy’n dewis codi arian at achosion da.
Rydym yn cefnogi/wedi cefnogi, amrywiaeth o achosion lleol, megis:
Noddi unigolion i gymryd rhan mewn:
Ac rydym yn cefnogi cyhoeddiadau Cymraeg lleol fel:
Yn ddiweddar penderfynodd y cwmni noddi cystadleuaeth ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 dwy ysgol leol i gynhyrchu gwaith celf ar “Dirnodau Lleol”. Bu’n llwyddiant mawr ac mae’r gweithiau celf i’w gweld ar waliau ein Swyddfa. Derbyniodd yr ysgolion gyfraniad tuag at offer celf ac fe gafodd y plant docynnau llyfrau a deunyddiau celf.
Tros sawl blwyddyn bellach rydym wedi datblygu perthynas gyda nifer o ysgolion uwchradd lleol gan gynnig profiad gwaith. Rydym hefyd yn helpu ble gallwn ni drwy gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr o golegau a phrifysgolion.
Rydym yn ymroi i ddarparu cymorth a chyngor drwy Gymorth Cyfreithiol ble gallwn ni gan ddewis parhau gyda’n Contractau Cymorth Cyfreithiol ar gyfer contractau trosedd a theulu (i gynnwys cyfraith gyhoeddus) er gwaetha’r toriadau sylweddol i argaeledd gwasanaethau/cyllid yn Ebrill 2013, gan barhau i ddarparu gwasanaeth o safon i’n cleientiaid, https://www.gov.uk/government/organisations/legal-aid-agency.
Rydym yn gwneud gwaith pro bono, megis Will Aid, http://www.willaid.org.uk/.
Amgylcheddol
Mae ein staff wedi mabwysiadu ymagwedd synnwyr cyffredin at eu hymarfer gweithio erioed, gan gynnwys, pan fo hynny’n bosib:
Rydym yn adolygu’r uchod gydag unrhyw ddatblygiadau newydd mewn technoleg a phan ddaw cyfleoedd i newid er lles