Mae gan Dîm Eiddo Masnachol Llewellyn-Jones y profiad a’r wybodaeth i helpu busnesau a landlordiaid i gwrdd â’u nodau masnachol. Gan weithio gyda chleientiaid o bob maint, a thros ystod o wahanol eiddo, mae gennym yr arbenigedd i gwrdd â’ch nodau a’ch dyheadau.

Waeth pa ochr o’r berthynas ydach chi, gall anghydfod fod yn beth drwg i fusnes. Fel landlord gall beryglu eich buddsoddiad – fel tenant fe allai gael effaith uniongyrchol ar eich gwaith o ddydd i ddydd. Dyna pam rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol i ddatrys anghydfod, yn enwedig cyn i bethau boethi.

Os ydych chi’n landlord neu’n denant sydd angen cymorth cyfreithiol, mae gan y tîm yma yn Llewellyn-Jones brofiad yn y meysydd canlynol o faterion landlord a thenant:

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Prydlesau a Phrydlesau Galwedigaethol

Mae gan gyfreithwyr Llewellyn-Jones brofiad a gwybodaeth eang ym maes Landlord a Thenant ac maent wedi gweithio gyda busnesau bach a mawr dros ystod o wahanol eiddo.

Gall anghydfod godi mewn meysydd megis:

  • Adolygiadau rhent
  • Cyflwr eiddo
  • Cyfrifoldebau trwsio a chynnal a chadw
  • Ôl-ddyledion rhent ac ôl-ddyledion eraill
  • Terfynu prydles
  • Adnewyddiadau

Gallwn gynnig cyngor a negodi i ddatrys/atal anghydfodau o’r fath, pa un ai a ydych yn landlord neu’n denant.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Prydlesau Masnachol

Gall prydlesau masnachol fod yn gymhleth. Mae’n bwysig bod tenantiaid yn gwybod yn union beth yw telerau a goblygiadau eu cytundeb prydles. Mae gan Llewellyn-Jones dîm o gyfreithwyr profiadol, sy’n gweithredu’n gyson ar ran y landlord a thenantiaid mewn cytundebau eiddo busnes bach a mawr.

Fe’ch cynghorir i geisio cyngor proffesiynol o’r cychwyn cyntaf, i leihau’r peryglon ac amddiffyn eich buddiannau.

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Prydlesau Preswyl

Os ydych chi’n landlord neu’n fusnes masnachol sydd am osod eiddo preswyl, mae gan Llewellyn-Jones y wybodaeth a’r profiad i’ch cynghori ar feysydd megis:

  • Anghydfod ynghylch tenantiaeth
  • Troi allan
  • Cytundebau tenantiaeth preswyl
  • Tai mewn cyflwr gwael
  • Cyfrifoldeb landlord

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

Or use our contact form

Trafodiadau Tai Cymdeithasol

Mae gan gyfreithwyr Llewellyn-Jones gryn brofiad o ddarparu cyngor cyfreithiol i’r sector tai cymdeithasol.

Mae ein cyfreithwyr yn gweithio gyda darparwyr tai cofrestredig i gynghori ar ystod eang o faterion cyfreithiol y mae landlordiaid tai cymdeithasol yn eu hwynebu. Rydym yn gweithio gyda pherchnogion eiddo a landlordiaid cymdeithasol tros ystod o wahanol faterion gan gynnwys:

  • Anghydfod masnachol
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Materion datblygu

Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495

Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt

 

Or use our contact form

  • Achrediadau

  • Conveyancing Quality
  • Family Law Advanced
  • Resolution
  • Cyfreithiwr i'r Teulu cydweithredol