Yn wreiddiol o Swydd Durham, symudodd Laura i Gaer yn 2015 i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caer ac yna ei Chwrs Ymarfer Cyfreithiol a’i gradd Meistr ym Mhrifysgol y Gyfraith, Caer. Dilynodd Laura ei hyfforddiant mewn cwmni cyfreithiol cenedlaethol yng Nghaer cyn cymhwyso’n gyfreithiwr ym mis Hydref 2023 a symud i Llywellyn Jones yn fuan wedyn.
Mae Laura’n delio yn bennaf gyda Gwasanaethau Personol gan gynnwys Trawsgludo Preswyl ac Ewyllysiau yn ogystal â Gwaith Amaethyddol a Phrydelsi Masnachol.
Tu hwnt i’r gwaith, mae Laura’n mwynhau teithio ac mae’n awyddus i ymweld â chynifer o wledydd ag sy’n bosibl. Mae Laura hefyd yn canu yn ei chôr lleol ac mae’n ceisio ymweld â’r theatr mor aml â phosibl ac mae ganddi gariad mawr at bopeth sy’n ymwneud ag Eurovision.
Cyswllt Cyflym
Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.