Ymunodd Beti-Wyn Evans â’r tîm eiddo preswyl yn ein swyddfa yn Yr Wyddgrug ym mis Ionawr 2022. Hyfforddodd Beti-Wyn fel cyfreithiwr yn Swydd Amwythig, cyn dychwelyd i’w gwreiddiau lleol yn 2021 ble bu’n gweithio i gwmni yn Llangollen. Ers cymhwyso fel cyfreithiwr yn 2018, mae Beti-Wyn wedi arbenigo mewn trawsgludo preswyl a hefyd yn cynorthwyo cleientiaid i greu Ewyllysiau a threfnu Atwrneiaeth Arhosol.
Cwblhaodd Beti-Wyn radd carlam dwy-flynedd yn y gyfraith ym Mhrifysgol y Gyfraith, Christleton, ar ôl derbyn ysgoloriaeth o £3,000. Hefyd fe enillodd wobr Hillyer McKeown am y portffolio “Y Gyfraith ar Waith: Unigolion” gan fynd ymlaen i dderbyn Ysgoloriaeth Ddewisol ‘Law First’ ar gyfer ei Chwrs Ymarfer Cyfreithiol a Gradd Meistr, ble enillodd anrhydedd.
Mae Beti-Wyn yn rhugl ei Chymraeg ac yn byw ar y fferm deuluol ger Rhuthun. Pan nad yw yn y swyddfa a’r proffesiwn cyfreithiol mae’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored, yn mynd i gerdded gyda’i phedwar ci a dringo mynyddoedd. A chanddi atyniad naturiol tuag at eiddo, mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn dylunio mewnol
Cyswllt Cyflym
Cwblhewch y ffurflen isod ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag y bo modd.