
Rydym yn cynrychioli hawlwyr ym mhob agwedd o ymgyfreitha sifil. Gallwn gynnig cyngor a’ch cynrychioli chi ar bob cam o’r broses pa un ai a ydych am gychwyn achos neu eich bod angen ymateb i achos sydd yn cael ei ddwyn yn eich erbyn. Gallwn eich cynghori ar ystod eang o anghydfodau cyfreithiol.
Os ydych yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gwmni bydd ein Cyfreithwyr Ymgyfreitha medrus yn gweithio gyda chi, gan ddarparu cyngor cyfreithiol eglur a’ch arwain drwy bob un agwedd o’r anghydfod.
Rydym yn cynnig apwyntiadau untro heb unrhyw ymrwymiad am ffi benodol.
Rydym ar gael i gynnig cymorth a chyngor yn y meysydd canlynol:
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Pan fo parti wedi dioddef anaf heb unrhyw fai o gwbl arnynt hwy, cyfeirir at hyn yn gyfreithiol fel ‘anaf personol’. Gall hyn ddigwydd mewn sawl ffordd, yn y gwaith, mewn car, siop. Gall olygu bod iawndal yn cael ei hawlio am y colledion a gafwyd.
Os ydych chi wedi dioddef anaf o ganlyniad i esgeulustod person arall,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Os ydych yn llithro, yn baglu neu gwympo mewn man cyhoeddus o ganlyniad i esgeulustod person arall, mae’n bosib y bydd modd hawlio iawndal am eich anaf. Wrth ymweld ag eiddo busnes neu fan cyhoeddus, mae gan y perchennog ddyletswydd gofal.
Ymysg y math o bethau all ddigwydd mae:
Gall damwain a ddigwyddodd heb unrhyw fai arnoch chi gael effaith arwyddocaol ar eich bywyd pob dydd. Gall anafiadau hefyd olygu bod angen sylw meddygol sylweddol, adsefydlu, ac fe all olygu nad ydych chi’n gallu gweithio. Yn aml gall y gofal ychwanegol yma beri straen ariannol.
Mae gan Llewellyn-Jones brofiad eang o drafod achosion atebolrwydd cyhoeddus, gan lwyddo yn rheolaidd i sicrhau cefnogaeth ariannol ar gyfer pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddamwain ble nad oedden nhw ar fai. O benderfynu a oes gennych achos i’w ddwyn, hyd at ennill iawndal, bydd ein tîm yn gwneud yr holl waith er mwyn i chi fedru canolbwyntio ar wella’n llwyr.
Os ydych chi wedi dioddef anaf o ganlyniad i esgeulustod person arall, cysylltwch â thîm Llewellyn-Jones i weld a oes modd i chi hawlio iawndal.
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Gallwn gynnig cyngor ar bob agwedd o anghydfod cyflogaeth gan gynnwys:
Os oes angen cyngor arnoch chi ynghylch anghydfod cyflogaeth,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Mae cytundebau setlo yn gontractau sy’n rhwymo mewn cyfraith (a elwir hefyd yn gytundebau cyfaddawdu) a wneir rhwng cyflogwr a chyflogai.
Yn Llewellyn-Jones mae gennym dîm o arbenigwyr cyflogaeth sydd â phrofiad eang o helpu cleientiaid gyda’u cytundebau setlo. Mewn cyfnod llawn straen a phoen meddwl fe all fod o fudd cael arbenigwr yn eich cornel, i’ch arwain drwy’r broses a chynnig cymorth pob cam o’r ffordd.
Unwaith ichi arwyddo cytundeb setlo, ni fyddwch yn gallu ymlid unrhyw hawliad potensial sydd gennych o bosib yn erbyn eich cyflogwr, felly gall eglurhad gan arbenigwr o’r goblygiadau a’r mân fanylion fod o fudd yn yr hirdymor.
Os oes angen cyngor arnoch ar gytundeb setlo,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Pa un ai a ydych yn landlord neu dirfeddiannwr, yn denant neu’n berchennog tŷ, mae gan gyfreithwyr eiddo Llewellyn-Jones brofiad helaeth o ddatrys ystod eang o anghydfodau. Rydym yn deall ei bod hi’n anodd datrys problem o bryd i’w gilydd pan fo’r tensiwn yn uchel a’r gwahanol bartïon yn anghytuno, a dyma pam fod gennym ni’r wybodaeth a’r gallu i sicrhau fod eich buddiannau yn cael eu hamddiffyn. Gan weithio mewn modd cost-effeithiol i ganfod y datrysiad symlaf ar gyfer y mater, bydd ein tîm o arbenigwyr yn eich arwain yn sympathetig drwy’r broses gyfreithiol ar gyflymdra sy’n iawn i chi. Gall cyfreithwyr anghydfod eiddo Llewellyn-Jones gynnig cyngor neu gymorth ar draws ystod o faterion eiddo, gan gynnwys:
Mae gennym yr arbenigedd i’ch cynorthwyo i ddatrys eich mater mor gyflym â phosib.
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Pa un ai a ydych yn unigolyn neu’n fusnes, bydd ein cyfreithwyr proffesiynol yn defnyddio’u gwybodaeth i drefnu sut i adennill eich dyledion gyda’r ffwdan leiaf mewn modd cost-effeithiol. Rydym yn cynorthwyo cleientiaid yn rheolaidd i adennill dyledion a datrys anghydfodau.
Os hoffech chi gyngor ar anghydfod dyled neu’ch bod eisiau cymorth gyda dyled sydd heb ei thalu, cysylltwch â ni heddiw i ganfod mwy am sut y gallwn ni helpu,
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form
Fel busnes, heb os bydd raid ichi ddelio gyda chontractau masnachol fel rhan o’ch gweithrediadau dyddiol. Diben contractau yw darparu eglurder a thryloywder, yn enwedig pan fo sefyllfa yn codi yn y dyfodol ble nad yw rhwymedigaethau yn cael eu diwallu.
Mewn sefyllfa anffodus ble mae anghydfod yn codi o gontract masnachol, mae’n hanfodol eich bod yn ceisio cymorth cyfreithiol cyn gynted ag y bo modd i sicrhau bod eich buddiannau yn cael eu hamddiffyn. Mae gan Llewellyn-Jones dîm profiadol o gyfreithwyr sydd â phrofiad o anghydfodau contractiol a’r cymhlethdodau sydd ynghlwm. Gall ein tîm o arbenigwyr ddatrys anghydfodau mewn modd cyflym a chost-effeithiol, gan olygu y cewch chi ganolbwyntio ar yr hyn rydych yn ei wneud orau. Rydym yn gallu cynnig arweiniad a chymorth ar amrywiaeth o anghydfodau contractiol, gan gynnwys:
Cysylltwch â:
Swyddfa’r Wyddgrug – 01352 755305
Swyddfa Rhuthun – 01824 704495
Neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
Or use our contact form