Mold - 01352 755305 - Yr Wyddgrug
Ruthin - 01824 704495 - Rhuthun
LLEWELLYN-JONES
Solicitors > Cyfreithwyr










JOHN DAVID MEREDITH-JONES LL.B., FRSa.
Fe raddiodd David ym Mhrifysgol Lerpwl a chafodd ei dderbyn yn Gyfreithiwr ym 1970
ar ôl iddo fod yn dwrnai erthygledig i Mr W Armon Ellis. Daeth yn bartner yng nghwmni
Llewellyn-Jones ac Armon Ellis ym 1973, yn Ddirprwy Grwner EM dros Ddwyrain Clwyd
ym 1977 ac yn Grwner EM dros Ddwyrain Clwyd o 1990 tan 1996.Fe'i penodwyd yn aelod
cyfreithiol o'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd ar gyfer Lloegr a Chymru ym 1976 ac ers
1996 mae ef wedi bod yn Ddirprwy Gadeirydd y Tribiwnlys yng Nghymru. Ers 20 mlynedd
hefyd bu'n aelod cyfreithiol o'r Panel Asesiad Rhent a'r Tribiwnlys Prisio Prydlesoedd
dros Gymru. O 1984 ymlaen roedd David yn aelod o Bwyllgor Ardal Cymorth Cyfraith
Cymdeithas y Cyfreithwyr ac mae e'n parhau i ymrwymo i gefnogi gwaith sy'n cael ei
ariannu'n gyhoeddus gan ei fod yn Aelod o'r Panel Adolygu Cyllid ar gyfer y Comisiwn
Gwasanaethau Cyfraith. Yn 2008, cafodd David ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Gorfforedig
Cyfreithwyr Caer a Gogledd Cymru.Mae ef wedi gwneud gwaith ym mhob maes arfer y cwmni,
ond ar hyn o bryd mae e'n ymgynghori ynghylch Ewyllysiau, Profiant, Ymddiriedau,
Eiddo Masnachol a chyfraith amaethyddol.
DION AP GERAINT WILLIAMS LL.B. (Anrhydedd) Siaradwr Cymraeg.
Llwyddodd Dion i ennill gradd ym Mhrifysgol Llundain, a bu'n gyfreithiwr dan hyfforddiant
gyda Llewellyn-Jones ac Armon Ellis, ac yn dwrnai erthygledig i'r diweddar W. Armon
Ellis, OBE, LL.B. Cafodd ei dderbyn yn gyfreithiwr ym mis Gorffennaf 1980. Daeth
Dion yn bartner ym 1983 ac roedd yn Ddirprwy Grwner EM (Dwyrain Clwyd) rhwng 1990
a 1996. Ar ôl ennill ei gymwysterau roedd ei faes arfer yn un amrywiol a chyffredinol
ond bellach mae e'n arbenigo mewn Eiddo Landlord a Thenant, Ewyllysiau, Profiant
ac Ymddiriedau, Cyfraith Contractau a Thrwyddedu Mae ef hefyd yn Aelod Cyfreithiol
rhan-amser o'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru a Lloegr.
DELYTH GERAINT WILLIAMS LL.B. (Anrhydedd) Siaradwr Cymraeg.
WYDDFA RHUTHUN.
Cafodd Delyth ei derbyn yn gyfreithwraig ym 1981 ar ôl iddi fod yn dwrnai erthygledig
gyda chyn Gyngor Sir Clwyd. Wedi gweithio i gwmni preifat yn Nyffryn Conwy fe ymunodd
Delyth â Llewellyn Jones a'i Gwmni ym 1989. Ers hynny bu'n gweithio yn swyddfa Rhuthun
ac fe'i penodwyd yn bartner ym 1991.Ers pum mlynedd ar hugain a mwy bu Delyth yn
gyfreithwraig gyda chwmni sy'n gweithredu, gan mwyaf, mewn ardal wledig. Yn sgil
hynny mae ganddi wybodaeth eang ei chwmpas am yr holl faterion a'r problemau sy'n
effeithio ar ei chymuned leol. Mae hi wedi ymdrin â materion Cleientiaid Preifat
gan gynnwys trawsgludo preswyl, trafodiadau tir ac eiddo o bob math ac mae hi wedi
canolbwyntio'n arbennig ar gaffael a throsglwyddo ffermydd teulu a busnesau ffermio,
Ewyllysiau, Profiant a Gweinyddu Ystadau. Mae gan Delyth brofiad helaeth o ymdrin
â chleientiaid oedrannus ac mae hi'n aelod o'r Cyfreithwyr arbenigol ar gyfer grwp
yr Henoed. Gall hi roi cyngor ynghylch pob agwedd ar baratoi Ewyllys, gan gynnwys
cyngor cynllunio trethi lle y bo'n briodol. Mae hi'n gyn aelod o Bwyllgor Cyfraith
a Pholisi'r Eglwys Fethodistaidd ac ar hyn o bryd mae'n un o Lywodraethwyr Coleg
Llysfasi, Rhuthun. Mae Delyth yn aelod o Gôr Rhuthun a'r Cylch (alto yw hi!) ac
mae hi'n ymddiddori'n gyffredinol mewn cerddoriaeth. Pan oedd hi'n iau roedd hi'n
hociwraig selog ond bellach mae hi'n golffio pan fydd yr amser yn caniatáu. Mae
hi'n mwynhau'n fawr iawn mynd â'i chwn, Celyn a Meg, am dro a chymdeithasu gyda'i
ffrindiau a'i theulu.
COLETTE ANDREA FLETCHER LL.B. (Anrhydedd)
Cafodd Colette ei geni a'i haddysgu yn Wrecsam. Fe astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol
Cymru, Caerdydd cyn cwblhau ei chwrs ymarfer cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith,
yng Nghaer. Fe ymunodd Colette â'r cwmni fel Hyfforddai ym 1998 ac fe ailymunodd
â'r Cwmni yn 2004 ar ôl iddi gael ei phenodi yn Bartner er mwyn arwain y maes Ymarfer
Cyfraith Teulu yn y Cwmni. Mae Colette yn aelod o Banel Arbenigol Cymdeithas y
Gyfraith ar gyfer Cyfraith Teulu ac mae hi hefyd yn aelod o Resolution (Cymdeithas
y Cyfreithwyr dros Gyfraith Teulu gynt). Yn nyddiau cynnar ei gyrfa bu Colette yn
gweithio yn yr Ymchwiliad i Gam-drin Plant yng Ngogledd Cymru. Erbyn hyn mae hi'n
arbenigo ym mhob agwedd ar Gyfraith Teulu er mwyn cynnwys ysgariad, taliad terfynol,
anghydfodau plant; ac anghytundebau ac anghydfodau ynghylch gwahanu a chyd-fyw hefyd.
Mae Colette yn Gyfreithiwr Cydweithrediadol hyfforddedig sy'n gallu cynnig dull cydweithrediadol
o ymdrin â datrys anghydfodau. Fe benderfynodd Colette arbenigo mewn Cyfraith Teulu
am ei bod yn dymuno cynorthwyo pobl i ymdopi â phethau yn ystod un o'r adegau mwyaf
anodd ac emosiynol yn eu bywyd, ac mae hi am gynorthwyo i ddatrys eu problemau hefyd.
Yr hyn sy'n bwysig, er y gall ymddangos yn amhosibl pan mae pobl newydd wahanu â'i
gilydd, yw ei bod yn eu cynorthwyo i ymagweddu'n bendant at eu dyfodol. Mae hi'n
aelod o Resolution ac felly bydd hi'n hybu dull cymodol o ymdrin â phob mater. Bydd
hi'n trin a thrafod popeth yn dringar trwy fynd i'r afael â'r sefyllfa mewn modd
ymarferol a didrafferth. Rydym yn Gwmni sy'n meddu ar gontract (dosbarth cyntaf)
Categori 1 gyda'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfraith ac os bydd ein cleientiaid yn ariannol
gymwys gallwn ni ariannu eu hachos trwy gymorth cyllid cyhoeddus (cymorth cyfraith
gynt).Mae Colette yn byw yn Wrecsam gyda'i gwr a'i phlant ifanc.
NESTA MYFANWY DAVIES LL.B. (Anrhydedd) Siaradwr Cymraeg
Fe addysgwyd Nesta yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug ac fe raddiodd ym Mhrifysgol
Cymru, Aberystwyth, cyn ymuno â Llewellyn Jones a'i Gwmni lle cafodd ei hyfforddiant.
Ym 1982 cafodd ei derbyn yn gyfreithwraig ac wedi hynny, am bum mlynedd, bu'n gyfreithwraig
yng nghwmni Humphreys a Parsons yng nghanolbarth Cymru cyn dychwelyd i weithio i
Llewellyn Jones a'i Gwmni ym 1987. Mae hi'n arbenigo mewn achosion Eiddo Amaethyddol
a Phreswyl, Gwarcheidiaeth Gyhoeddus, Ewyllysiau, Profiant a materion treth. Yn
y blynyddoedd diweddar mae hi wedi dechrau ymwneud rhagor â gwaith ym maes Tai Cymdeithasol
yn gysylltiedig â'r ddarpariaeth gynyddol ar gyfer cartrefi rhad yn y gymuned. Mae
Nesta yn medru siarad Cymraeg yn rhugl.Gwraig briod yw Nesta (Geoff yw ei gwr) ac
mae ganddi bedwar plentyn. Mae hi'n Gynghorydd Cymuned ac yn Flaenor yng Nghapel
M.C. Berthen, Licswm. Mae hi hefyd yn aelod o sawl mudiad gwirfoddol yn y gymuned
leol. Ymysg ei diddordebau, pan fydd yr amser yn caniatáu, mae cerdded ar y bryniau
a gweithgareddau awyr agored, cerddoriaeth a garddio.
HUW ROBERTS LL.B. (Anrhydedd) Siaradwr Cymraeg.
Mae Huw yn hanu o Ruthun ac mae'n un o gyn-ddisgyblion Ysgol Brynhyfryd. Llwyddodd
i sicrhau ysgoloriaeth er mwyn astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth lle enillodd
radd anrhydedd yn y gyfraith. Ar ôl cwblhau'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, yn llwyddiannus,
yng Ngholeg y Gyfraith, Christleton, fe ymunodd â chwmni Llewellyn-Jones yn gyfreithiwr
dan hyfforddiant yn 2000.Cafodd Huw ei dderbyn yn gyfreithiwr yn 2002 yn sgil contract
hyfforddiant a oedd yn cynnwys gwaith Trawsgludo, Teuluol a Throseddol.Ers cymhwyso
mae Huw wedi canolbwyntio'n bennaf ar waith troseddol. Mae ef wedi ennill profiad
eang ei gwmpas o ymgymryd â gwaith Gorsafoedd Heddlu a Llysoedd Ynadon a bydd i'w
weld yn cynrychioli cleientiaid yn rheolaidd yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug. Mae e'n
adfocad profiadol ym maes treialon.Bu Huw yn ymwneud yn weithgar â sawl achos Llys
y Goron ac mae hynny wedi cynnwys cynnal, ar ei liwt ei hun, Geisiadau am Fechnïaeth
gerbron Barnwr yn ei Swyddfa a Gwrandawiadau Rhagarweiniol yn Llys y Goron.Ar ben
hynny gall Huw gynnal gwaith Cymorth Cyfraith a gwaith Taliadau Preifat yn hollol
ddwyieithog, ac mae ganddo brofiad o ymdrin ag Erlyniadau'r Heddlu ac Erlyniadau
nad ydynt yn ymwneud â'r Heddlu.Bydd Huw hefyd yn ymdrin â materion Teulu fel Ysgariad,
yr Agweddau Ariannol ar Gyfraith Ysgariad, Ceisiadau Plant a Gorchmynion Rhag Molestu.
Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o gynnal trafodiadau Trawsgludo Preswyl, Tir ac
Eiddo.Yn ei amser hamdden mae Huw'n ymddiddori'n fawr iawn mewn cerddoriaeth yn gyffredinol
- gwrando a cherddori - ac mae e'n mwynhau cymdeithasu gyda'i ffrindiau.
JENNIFER VAUGHAN SCOTT LL.B. (Anrhydedd) Siaradwr Cymraeg
WYDDFA RHUTHUN
Fe astudiodd Jenny y gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl a chafodd ei derbyn yn gyfreithwraig
ym 1983. Mae ganddi brofiad eang ei gwmpas o bob agwedd ar gyfreitha. Ers y chwe
blynedd diwethaf mae Jenny wedi bod yn arbenigo mewn cyfraith teulu, a bu'n ymdrin
ag ysgariad, gwahanu, anghydfodau ynghylch plant ac anghydfodau ariannol o ganlyniad
i ysgariad. Mae Jenny yn aelod o 'Resolution' (Cymdeithas Cyfraith Teulu y Cyfreithwyr
gynt) sy'n ceisio annog cyfreithwyr i gydweithio pan maent yn cynrychioli pobl sy'n
anghydweld â'i gilydd mewn materion teuluol.Bydd Jenny yn gwneud ei gorau glas i
annog cleientiaid i ddefnyddio dull rhagweithiol o ymdrin â'u trefniadau ariannol.
Gall hi roi cyngor, pan fydd hynny'n briodol, ynghylch Cytundebau Cyd-fyw neu ynghylch
mathau priodol o gydberchnogaeth pan fydd partïon neu eu teuluoedd wedi gwneud gwahanol
gyfraniadau ariannol at yr asedau teuluol.Mae Jenny yn cydweithio'n agos â Delyth
er mwyn i'r cleientiaid gael y cyngor mwyaf eang ei gwmpas y bydd arnynt ei angen
yn aml mewn sefyllfaoedd teuluol cymhleth. Ar ben hynny mae gan Jenny brofiad o
hawliadau cynhennus ym maes Profiant a Deddf Etifeddu a gall gynnig cyngor neu gynrychioli
pobl mewn perthynas â'r maes dyrys hwn.Gwraig briod yw Jenny (mae ei wr yntau'n gyfreithiwr!)
ac mae ganddi ddwy ferch. Mae hi'n mwynhau garddio, darllen a chadw mewn cysylltiad
â'i theulu a'i ffrindiau.
MARIANNE JONES LL.B. (Anrhydedd)
Mae gan Marianne gysylltiadau cryf â'r ardal leol a gyda'r Wyddgrug yn arbennig,
lle cafodd ei magu a'i haddysgu. Roedd hi'n mynychu ysgolion Cymraeg y dref - Ysgol
Gynradd Glanrafon i ddechrau ac yna Ysgol Uwchradd Maes Garmon.Ar ôl cwblhau ei haddysg
uwchradd, fe aeth Marianne ati i astudio am radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Cymru,
Abertawe, lle llwyddodd hi i sicrhau gradd 2:1 yn 2003.Ym mis Medi 2004, penderfynodd
Marianne ddilyn y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith, Caer lle llwyddodd
hi i gwblhau'r cwrs Ymarfer Cyfreithiol i Raddedigion, gan ennill Diploma â Chanmoliaeth.
Daeth Marianne at Llewellyn-Jones a'i Gwmni, Cyfreithwyr, er mwyn cael ei hyfforddi
i fod yn gyfreithwraig, a dyna a wnaeth cyn ymuno â'r cwmni ar Awst 1af 2004. Ar
ôl cael ei derbyn yn gyfreithwraig mae hi wedi aros gyda'r cwmni a bellach mae hi
yn Gyfreithwraig Gynorthwyol.Pan oedd hi'n cael ei hyfforddi, llwyddodd Marianne
i ennill profiad helaeth iawn o amryw feysydd sy'n cynnwys cyfraith droseddol, trawsgludo
preswyl, cyfreitha sifil a chyfraith teulu. Mae Marianne yn parhau i gynorthwyo ym
mhob un o'r meysydd uchod, yn y swyddfa a thrwy gynrychioli cleientiaid yn y Llys.
Ar ben hynny mae hi'n rheoli ei llwyth achosion ei hun sydd, gan mwyaf, yn cynnwys
materion teuluol, ymdrin ag ysgariad, materion ariannol, gwaharddebion a phlant,
gan gydweithio'n agos â Phennaeth yr Adran Briodasol, Mrs Colette Fletcher. Ar ben
hynny mae Marianne yn Gynrychiolydd Cydnabyddedig yng Ngorsafoedd yr Heddlu, sy'n
caniatáu iddi gynghori a chynrychioli cleientiaid yng ngorsaf yr heddlu.




