Mold -
Ruthin -
LLEWELLYN-
Solicitors > Cyfreithwyr

GAIR NEU DDAU AMDANOM NI:
Llewellyn-
Sefydlwyd y practis yn Yr Wyddgrug ym 1920 ac yn Rhuthun ym 1988.
Rydym wedi gweithredu ar ran cenedlaethau o bobl o'r un teulu ac rydym yn falch o allu cynnal yr enw da sydd inni o fod yn "gwmni teuluol", yn enwedig felly ym myd y gyfraith sy'n newid o hyd.
Mae gennym dri phartner sy'n arbenigo yn eu priod feysydd eu hunain o'r gyfraith. Ar ben hynny mae gennym bum Cyfreithiwr Cynorthwyol, Cyfreithiwr Dan Hyfforddiant a thîm o staff cymorth profiadol. Ar y cyd maent yn cynnig gwasanaeth effeithlon, o safon uchel, sy'n egluro pam y mae nifer fawr o gleientiaid newydd yn cysylltu â ni, am fod pobl eraill wedi eu hannog i wneud hynny.
Anaml iawn y byddwn ni'n hysbysebu ein gwasanaethau, ar wahân i'r cofnodion arferol yn y llyfr ffôn a hysbysebion lleol o dro i dro.
Felly gobeithio bod hyn yn ddigon o eirda inni ar gyfer unrhyw ddarpar gleientiaid sydd angen gwasanaethau cyfreithiol.
Ym mis Gorffennaf 2007 fe wnaethom symud i swyddfa mewn lle mwy cyfleus yng nghanol Yr Wyddgrug sydd â maes parcio ehangach i gleientiaid a rhagor o swyddfeydd yr oedd eu mawr angen.
Rydym wedi sicrhau contractau â'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfraith yn y categorïau teuluol a throseddol yn Yr Wyddgrug ac yn y categori teuluol yn Rhuthun. Rydym hefyd yn aelodau o Resolution, sef y Panel Cyfraith Teulu.
Caiff y cwmni ei awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac mae e'n cydymffurfio â Chod Ymddygiad 2007 y Cyfreithwyr, Rhif cofrestru 557403